Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Cadwedigaeth Ddigidol yn gyfres o weithgareddau sy’n ofynnol wrth sicrhau y gellir canfod gwrthrychau digidol, eu hatgynhyrchu, eu defnyddio a’u dirnad yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys rheoli enwau’r gwrthrychau a’u lleoliadau, diweddaru’r cyfrwng cadw, dogfennu’r cynnwys a chofnodi newidiadau i feddalwedd a chaledwedd er mwyn sicrhau bod modd agor gwrthrychau a’u dirnad. Mae’r Llyfrgell yn ymwneud â chadwedigaeth ddigidol hirdymor, ac yn hyn o beth ystyr hirdymor yw 'digon hir i fod angen ystyried effeithiau technolegau sy’n newid, gan gynnwys galluogi’r defnydd o gyfryngau a fformatau data newydd, neu newid yn natur y gymuned defnyddwyr. Gall hirdymor fod yn ddiderfyn.' [CCSDS, 2002]
'Gwrthrych a wneir o gyfres o ddilyniannau didol (bit sequences)' yw gwrthrych digidol [CCSDS, 2002]. Gall gwrthrych digidol fod yn 'ddigidol-anedig' neu’n 'ddirprwyol ddigidol' o ganlyniad i ddigido gwrthrych analog neu ffisegol.
Mae nifer o fanteision/cymhellion wrth ddigido gwrthrychau analog, yn cynnwys:
Fformat ffeil yw’r dull penodol o amgodio gwybodaeth a’i storio mewn ffeil gyfrifiadurol. Yn aml iawn ceir dogfen a elwir yn fanylyn fformat ffeil i nodi’r dull penodol a ddefnyddiwyd i adeiladu a threfnu’r fformat ffeil. Mae’r ddogfen hon yn rhoi’r manylion angenrheidiol ar gyfer creu ffeil ddilys o fath penodol, a datblygu rhaglenni meddalwedd sy’n gallu dadgodio’r ffeiliau hyn a’u hatgynhyrchu. Er enghraifft, gellir gweld manylion fformat ffeil TIFF 6.0 yma.
Ceir amrywiaeth o fformatau ar gyfer gwrthrychau digidol, ond o ran cadwedigaeth ddigidol mae’n rhaid defnyddio fformat a dderbynnir yn eang, ac yn gyffredinol dylai gwrthrychau digidol gydymffurfio â safon fformat agored ar gyfer cadwedigaeth hirdymor. Mae’r Llyfrgell felly yn dra gofalus wrth ddewis fformat ffeil at ddibenion cadwedigaeth, ac wrthi’n llunio canllawiau i adneuwyr o’r fformatau cymeradwy a ffafriadwy. Wrth greu delweddau fel rhan o’r rhaglen ddigido, mae’r Llyfrgell ar hyn o bryd yn creu 3 chopi o ddelwedd - copi gwreiddiol ar ffeil TIFF at ddibenion cadwedigaeth, a dwy ffeil ddeilliadol lai o faint, y naill yn JPG at ddibenion cyfeiriadol i’w dangos ar sgrin, a’r llall yn GIF ar gyfer fersiwn mân-lun. O bryd i’w gilydd caiff ffeil PFF ei chreu hefyd os oes angen chwyddo’r ddelwedd.
Prif briodweddau yw priodoleddau hanfodol y gwrthrych digidol sy’n effeithio ar ei ymddangosiad, ei ymddygiad, ei ansawdd a pha mor rhwydd y gellir ei ddefnyddio. Gellir gosod y priodweddau mewn categorïau yn ôl:
Mae’n rhaid diogelu prif briodweddau gyda threigl amser, er mwyn i'r gwrthrych digidol barhau i fod yn hygyrch ac ystyrlon.
Bu twf aruthrol yn y swm o ddeunydd digidol sy’n cael ei greu, ei storio a’i ddarparu ar ein cyfer. Felly, wrth fod yn geidwad i’r cyfoeth hwn mae’n rhaid i’r Llyfrgell fod yn gyfrifol am ei gadwedigaeth. Mae deunydd digidol, boed yn 'ddigidol-anedig' neu'n ddeunydd a droswyd i ffurf ddigidol, mewn perygl o ddarfodiad technolegol a difrod neu ddirywiad ffisegol.
Mae’n bwysig diogelu deunydd fel ei fod yn hygyrch i bobl heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol, boed hynny mewn fformat analog neu ddigidol. Fodd bynnag, mae cadwedigaeth deunydd digidol yn fater llawer mwy cymhleth na chadwedigaeth deunydd analog fel papur, ac felly rydym yn wynebu her newydd o ran cadwedigaeth deunydd digidol. Mae’n rhaid ystyried y materion canlynol wrth ymdrin â deunydd digidol:
Darfodiad technolegol – gall hyn effeithio ar galedwedd, meddalwedd a hyd yn oed trefniant data mewn ffeil. Mae rhai enghreifftiau o ddarfodiad yn cynnwys:

Difrod/dirywiad ffisegol – gall hyn effeithio ar galedwedd a’r cyfryngau a ddefnyddir i storio deunydd. Mae rhai enghreifftiau o ddifrod/dirywiad corfforol yn cynnwys:
Mae strategaethau i oresgyn y rhwystrau hyn yn cynnwys adnewyddu, mudo, dyblygu a dynwared. Defnyddia’r Llyfrgell gymysgedd o adnewyddu a mudo er mwyn mynd i’r afael â’r anawsterau hyn.