Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod wrthi’n casglu a diogelu cofnod o ddiwylliant, treftadaeth a gwybodaeth y wlad ers ei sefydlu drwy Siarter Frenhinol ym 1907. Am y rhan helaeth o’r cyfnod hwnnw roedd y mwyafrif o’r deunydd a gasglwyd ar ffurf analog neu ffisegol:

Erbyn heddiw rydym oll yn defnyddio technolegau digidol i greu gwybodaeth a’i rannu mewn ffyrdd sy’n trawsnewid ein hymddygiad a’n sefydliadau. Mae diogelu deunydd digidol heddiw yn hanfodol wrth ddiogelu hanes a diwylliant y wlad. I gydnabod hyn, ar 19 Gorffennaf 2006 rhoddwyd Siarter atodol i’r Llyfrgell i 'gasglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math a ffurf ar wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a Chenedl y Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy’n ymroi i ymchwil a dysg.'
Mae’r Llyfrgell felly wedi ymrwymo i gasglu a diogelu ein treftadaeth ddigidol ar gyfer pobl heddiw a chenedlaethau’r dyfodol, a phwysleisir hyn yng Nghynllun Corfforaethol y Llyfrgell, sy’n datgan y byddwn ni’n 'sicrhau mynediad i’n hadnoddau i ddefnyddwyr y dyfodol, trwy gynllunio storfeydd newydd ar gyfer deunydd analog, sicrhau parhad i ddeunydd digidol, paratoi at adnau cyfreithiol electronig, ac archwilio Cadwrfa Ddigidol Sicr.'
Lluniwyd y Polisi Cadwedigaeth Ddigidol cyntaf yn 2003, ac fe’i hadolygwyd yn 2008. O ganlyniad i hynny, ym mis Tachwedd 2008 penodwyd Sally McInnes yn Gydlynydd Cadwedigaeth Ddigidol er mwyn cydlynu gweithgareddau o fewn y Llyfrgell. Ar ôl ei phenodi fe sefydlwyd Tîm Rheoli Asedau Digidol hefyd. Nid oes modd cyflawni Cadwedigaeth Ddigidol ar wahân i bopeth arall felly rhaid i staff o wahanol adrannau'r Llyfrgell chwarae rhan allweddol yn y broses o gadwedigaeth ddigidol.
Dyma restr o’r gwahanol fathau o ddeunydd digidol a gasglwn: