Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Metadata


Yn yr un modd ag y catalogir deunydd analog traddodiadol, mae angen metadata ar gyfer gwrthrychau digidol. 'Gwybodaeth strwythuredig yw metadata sy’n disgrifio adnodd gwybodaeth, ei egluro, a’i leoli neu mewn unrhyw ffordd arall yn ei gwneud hi'n haws ei gyrchu, ei ddefnyddio neu’i reoli.' [NISO, 2004]. Mae angen amrywiaeth o fetadata er mwyn llwyddo i reoli a diogelu gwrthrychau digidol.

 

Ceir 3 chategori cyffredinol o fetadata:

 

  • Metadata Disgrifiadol: gwybodaeth sy’n disgrifio cynnwys deallusol y gwrthrych, a ddefnyddir wrth gael hyd i wrthrychau. Defnyddia’r Llyfrgell MARC21, Dublin Core a MODS i wneud hyn.


  • Metadata Strwythurol: gwybodaeth sy’n clymu pob gwrthrych at wrthrychau eraill i greu unedau rhesymegol, a ddefnyddir yn bennaf wrth storio gwrthrychau mewn cadwrfa, ac wrth gyflwyno gwrthrychau.


  • Metadata Gweinyddol: gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer rheoli’r gwrthrych: gall hyn gynnwys gwybodaeth am y dull sganio, y fformat storio ac ati (yn aml gelwir hyn yn fetadata technegol), gwybodaeth ynghylch hawlfraint a thrwyddedau, a gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer cadwedigaeth hirdymor y gwrthrychau digidol (metadata cadwedigaeth).  Defnyddia’r Llyfrgell PREMIS, TEI, textMD a MIX i wneud hyn.

 

 

Safonau Metadata a ddefnyddir yn y Llyfrgell

 

  • MARC21 (MAchine-Readable Cataloguing)

    Fformat safonol sy'n cynrychioli a chyfathrebu gwybodaeth lyfryddol a pherthynol mewn fformat peiriant-ddarllenadwy yw MARC21. Mae holl safonau MARC yn cydymffurfio ag ANSI/NISO Z39.2 ac ISO 2709:2008.

  • Encoded Archival Description (EAD)

    Safon XML yw EAD ac fe’i defnyddir yn helaeth yn y maes archifol ar gyfer amgodio cymhorthion canfod (disgrifiad ar lefel casgliad). Gall ddisgrifio casgliad digidol a’i strwythur mewnol, o’r haen uchaf ar lefel casgliad i eitemau unigol.

      Metadata Clywedol (AMD), sy’n cynnwys metadata technegol penodol i

     ffeiliau clywedol, megis amledd samplu.

 

      Metadata Fideo (VMD), sy’n cynnwys metadata technegol i ddisgrifio

     gwrthrych digidol ar ffurf fideo, megis cyfradd ddidol, codec cywasgiad.

 

  • Metadata Object Description Schema (MODS)

    Sgema yw MODS ar gyfer cyfres o elfennau llyfryddiaethol. Gellir ei ddefnyddio at nifer o wahanol ddibenion, ond yn benodol ar gyfer cymwysiadau llyfrgell. Gan mai sgema XML ydyw, disgwylir iddo fedru cludo data dethol o gofnodion MARC 21 presennol yn ogystal â galluogi creu cofnodion i ddisgrifio adnoddau gwreiddiol.

  • PREservation Metadata: Implementation Strategies (PREMIS)

    PREMIS yw enw’r gweithgor rhyngwladol a luniodd yr adroddiad Geiriadur Data PREMIS ar gyfer Metadata Cadwedigaeth. Felly, pan fo pobl yn sôn am PREMIS, mae’n bosibl hefyd eu bod yn cyfeirio at y sgema XML a ddefnyddir i gynrychioli PREMIS. Mae metadata cadwedigaeth yn cynorthwyo gweithgareddau sy’n sicrhau bod modd defnyddio adnoddau digidol yn y tymor hir. Fe’i disgrifir fel 'yr wybodaeth y mae cadwrfa’n ei defnyddio i gynorthwyo proses cadwedigaeth ddigidol.' Mae model data PREMIS yn trefnu’r unedau semantig a ddiffinir yn y Geiriadur Data.  Diffinia’r model data 5 endid hanfod i weithgareddau cadwedigaeth ddigidol: Hanfodion Deallusol, Gwrthrychau, Digwyddiadau, Hawliau ac Asiantau.

  • Text Encoding Initiative (TEI)

    Consortiwm yw’r Text Encoding Initiative (TEI), sy’n gweithio ar y cyd i ddatblygu a chynnal safon ar gyfer atgynhyrchu testun ar ffurf ddigidol.  Ei brif gynnyrch yw cyfres o ganllawiau sy’n nodi dulliau amgodio testunau y gall peiriannau eu darllen, yn bennaf ym meysydd y dyniaethau, gwyddorau cymdeithasol ac ieithyddiaeth. Defnyddiwyd Canllawiau TEI yn helaeth ers 1994 gan lyfrgelloedd, amgueddfeydd, cyhoeddwyr ac ysgolheigion unigol i gyflwyno testunau ar gyfer ymchwil ar y we, addysgu a chadwedigaeth.

  • Technical Metadata for Text (textMD)

    Sgema XML yw textMD sy’n rhoi manylion metadata technegol i wrthrychau digidol sy’n seiliedig ar destun. Mae’r sgema’n galluogi’r Llyfrgell i gofnodi manylion megis: gwybodaeth amgodio (ansawdd, platfform, meddalwedd, asiant), gwybodaeth am nodau (set a maint y nodau, trefn beitiau a’u maint, terfynau llinellau), ieithoedd, ffontiau, gwybodaeth am arwyddnodau, nodiadau ynghylch prosesu a thestun, gofynion technegol ar gyfer argraffu a gweld, trefn tudalennau a dilyniant.

 

 

METS [Metadata Encoding and Transmission Standard]

 

Mae’r sgema METS yn safon ar gyfer amgodio metadata disgrifiadol, gweinyddol a strwythurol sydd a wnelo â gwrthrychau mewn llyfrgell ddigidol, ac fe’i mynegir drwy ddefnyddio iaith sgema XML Consortiwm y We Fyd Eang. Gellir defnyddio dogfen METS fel Pecyn Gwybodaeth Cyflwyno (SIP), Pecyn Gwybodaeth Archifol (AIP) neu Becyn Gwybodaeth Lledaenu (DIP) o fewn y Model Cyfeiriol Systemau Gwybodaeth Archifol Agored (OAIS).

 

Dogfen METS

 

Mae 7 prif ran i ddogfen METS:

 

1.  Pennawd METS: yn cynnwys metadata sy’n disgrifio’r ddogfen METS ei hun, gan gynnwys gwybodaeth megis crëwr, golygydd

 

2.  Metadata disgrifiadol: gall y rhan yma gyfeirio at fetadata disgrifiadol y tu allan i’r ddogfen METS (er enghraifft, cofnod MARC yn yr OPAC neu gymorth canfod EAD) neu gall gynnwys metadata disgrifiadol mewnol (er enghraifft, MODS, DC), neu gall fod yn gyfuniad o’r ddau.

 

3.  Metadata gweinyddol: mae’r rhan yma’n rhoi gwybodaeth ynghylch y modd y crëwyd y ffeiliau, hawliau eiddo deallusol, metadata am y gwrthrych gwreiddiol a gwybodaeth ynglŷn â tharddiad y ffeiliau sy’n rhan o’r gwrthrych yn y llyfrgell ddigidol (hynny yw, copi gwreiddiol, rhyngberthynas ffeiliau deilliadol a gwybodaeth ynghylch mudo / trawsnewid. Gall metadata gweinyddol fod yn fewnol neu’n allanol, ac mae enghreifftiau’n cynnwys PREMIS, TEI a MIX

 

4.  Ffeiliau: rhestr o’r holl ffeiliau â chynnwys ynddynt sy’n rhan o fersiynau electronig y gwrthrych digidol. Gellir storio elfennau <file> mewn grŵp o fewn elfennau <fileGrp> er mwyn gallu isrannu’r ffeiliau yn ôl fersiwn y gwrthrych.

 

5.  Map strwythurol: dyma graidd y ddogfen METS. Mae’n rhoi strwythur hierarchaidd y gwrthrych yn y llyfrgell ddigidol ac yn cysylltu elfennau o’r strwythur hwnnw â ffeiliau a metadata sy’n berthnasol i’r elfennau hynny.

 

6.  Cysylltiadau strwythurol: mae’r rhan yma’n galluogi crëwr y ddogfen METS i gofnodi bodolaeth dolenni cyswllt rhwng gwahanol nodau o fewn yr hierarchaeth a nodir yn y map strwythurol.

 

7.  Ymddygiad: gellir defnyddio’r rhan yma i gysylltu ymddygiadau rhaglenadwy gyda chynnwys o fewn y gwrthrych METS.

 

Dyma enghraifft o un o ddogfennau METS LlGC.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-10-2009