Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae’r Model Cyfeiriol Systemau Gwybodaeth Archifol Agored (OAIS) (ISO 14721) yn safon ryngwladol sy’n ymwneud â chadwedigaeth gwybodaeth yn y tymor hir. Caiff ei dderbyn yn eang ym maes cadwedigaeth ddigidol fel safon allweddol i gadwrfeydd digidol. Mae’r model yn pennu system ar gyfer archifo gwybodaeth ddigidol a ffisegol, drwy gynllun trefniadaethol sy’n cynnwys pobl sy’n derbyn cyfrifoldeb dros ddiogelu gwybodaeth a sicrhau ei fod o ar gael i gymuned ddynodedig. Mae’n ymwneud â nifer o swyddogaethau cadwedigaeth gan gynnwys amlyncu, cadwraeth archifol, rheoli data, mynediad a lledaeniad. Mae hefyd yn ymwneud â mudo gwybodaeth ddigidol i gyfryngau newydd a gwahanol ffurfiau, y modelau data a ddefnyddir i gynrychioli’r wybodaeth, swyddogaeth y feddalwedd o ran cadwedigaeth gwybodaeth, a chyfnewid gwybodaeth ddigidol o’r naill archif i’r llall.
Mae model OAIS yn cynnwys 6 hanfod gweithredol, a nodir eu gweithgareddau cysylltiol isod:
1. Amlyncu
2. Cadwraeth Archifol
3. Rheoli Data
4. Gweinyddiaeth
5. Cynllunio Cadwedigaeth
6. Mynediad
Dogfennau:
Mae’r System Rheoli Asedau Digidol (DAMS) yn galluogi’r Llyfrgell i amlyncu deunydd i’w harchif ddigidol, ei reoli drwy gylchred ei fywyd a’i wneud yn hygyrch i’r cyhoedd. Yn 2007 cafodd y Llyfrgell System Rheoli Gwybodaeth VTLS, sydd yn cynnwys VTLS Vital, pecyn a luniwyd i gynorthwyo datblygiad ‘cadwrfa gwrthrychau digidol’, neu System Rheoli Asedau Digidol. System berchnogol yw VTLS Vital sy’n seiliedig ar system côd agored Fedora.
Yr archif ddigidol yw’r caledwedd a’r meddalwedd cyfrifiadurol sy’n storio data digidol am dymor hir ac fe ddefnyddir yr ystorfa hon ar gyfer cadwedigaeth ddigidol. Dechreuodd y Llyfrgell ddatblygu’r archif ddigidol yn 2003, ac ar hyn o bryd mae’n storio ffeiliau o ddelweddau digidol a gynhyrchir drwy raglen ddigido’r Llyfrgell a recordiadau sain [Offair BoB], a bwriedir datblygu’r archif ymhellach i storio sawl math arall o ddeunydd digidol. Defnyddia’r archif ddigidol dechnoleg Quantum Amass i storio symiau mawr o ddata ar ffurf sy’n hawdd i'w adalw a’i uwchraddio’n awtomatig. Yn 2009 gall yr archif storio 200 terabeit a gellir ei hymestyn ymhellach.

'Cenhadaeth cadwrfa ddigidol sicr yw darparu mynediad dibynadwy a hirdymor i adnoddau digidol a reolir ar gyfer ei chymuned ddynodedig, yn awr ac yn y dyfodol' [Canolfan Llyfrgell Gyfrifiadurol Arlein yr Unol Daleithiau (OCLC), 2002]. Rhaid i Gadwrfa Ddigidol Sicr feddu ar y 7 nodwedd a ganlyn:
1. Cydymffurfiaeth â Systemau Gwybodaeth Archifol Agored (OAIS)
2. Cyfrifoldeb gweinyddol
3. Dichonolrwydd trefniadaethol
4. Cynaladwyedd ariannol
5. Addasrwydd technolegol a threfniadol
6. Diogelwch y system
7. Atebolrwydd trefniadol
Mae’r Cynllun Corfforaethol yn nodi bod y Llyfrgell wrthi’n 'ymchwilio anghenion ac oblygiadau sefydlu Cadwrfa Ddigidol Sicr' ac yn 'datblygu ei harferion a’i gweithdrefnau i ateb y gofynion a ddisgwylir yn arferol gan gadwrfa ddigidol ddibynadwy' [Polisi a Strategaeth Cadwedigaeth Ddigidol, 2008].