Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dyma restr o feddalwedd ac offer y mae’r Llyfrgell yn eu defnyddio er mwyn diogelu’i hasedau digidol.
Mae JHOVE ("jove"), sef 'JSTOR/Harvard Object Validation Environment', yn fframwaith feddalwedd estynadwy ar gyfer adnabod fformat gwrthrychau digidol, eu dilysu a’u nodweddu.
Offeryn meddalwedd yw DROID (Digital Record Object Identification) a ddatblygwyd gan Archif Genedlaethol y Deyrnas Unedig i adnabod fformat ffeiliau yn awtomatig mewn swp. Lluniwyd DROID i ddiwallu’r angen sylfaenol i bob cadwrfa fedru adnabod yn union beth yw fformat yr holl wrthrychau digidol a gedwir, a chysylltu’r manylion hynny i gofrestrfa ganolog o wybodaeth dechnegol sydd a wnelo â fformatau penodol a’i fformatau dibynnol.
Cofrestr o wybodaeth dechnegol arlein yw PRONOM. Mae’n rhoi gwybodaeth ddiduedd a chynhwysfawr am fformatau ffeil, meddalwedd a chydrannau technegol eraill sydd eu hangen i gynorthwyo mynediad hirdymor i gofnodion electronig a gwrthrychau eraill sy’n werthfawr o ran diwylliant, hanes neu fusnes.
Mae MediaInfo yn darparu gwybodaeth dechnegol a thagiau ar gyfer ffeiliau fideo neu sain.
Rhaglen gyfrifiadurol yw md5sum sy’n cyfrifo stwnshys MD5 128-did a’u dilysu, ac fe gaiff ei disgrifio yn yr algorithm RFC 1321. Mae’r stwnsh MD5 (neu’r prawfswm) yn gweithredu fel ôl bys digidol cryno ar gyfer ffeil. Gan fod bron pob newid i ffeil yn golygu fod ei stwnsh MD5 hefyd yn newid, defnyddir y stwnsh MD5 yn aml i wirio cyfanrwydd ffeiliau (hynny yw, gwirio nad yw’r ffeil wedi newid o ganlyniad i drosglwyddo ffeil, gwall ar ddisg ac ati).
Rhaglen>Unix safonol yw hon ar gyfer pennu pa fath o ddata a geir mewn ffeil gyfrifiadurol. Mae tair cyfres o brofion, a gynhelir yn y drefn hon: profion system ffeil, profion rhif hud, a phrofion iaith. Y prawf cyntaf sy’n llwyddo sy’n arwain at argraffu math y ffeil.
Meddalwedd reoli llif gwaith yw’r System Llif Gwaith Digido. Mae ar gael ar fewnrwyd ac fe'i datblygwyd gan CASIS [Centre for Advanced Software and Intelligent Systems] er mwyn monitro cynnydd tasgau ac eitemau sy’n rhan o’r llif gwaith. Mae’r feddalwedd yn seiliedig ar ddadansoddiad o brosesau digido’r Llyfrgell, ac fe'i lluniwyd yn sgil dogfen Llyfrgell Cyngres yr Unol Daleithiau o’r enw Steps in the Digitization Process.