Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Daw mwy a mwy o gasgliadau archif i’r Llyfrgell ar gyfryngau megis cryno-ddisgiau a DVD. Yn 2008 dechreuwyd y gwaith o ddatblygu’r system CDAS (System Cofnodi CD) er mwyn mynd i’r afael â chyfrwng o’r fath cyn gynted ag y mae’n cyrraedd y Llyfrgell. Mae mwy o ddatblygiadau ar y gweill yn 2009.
Mae’r Llyfrgell hefyd wrthi’n ystyried darparu adnodd a fydd yn galluogi pobl a sefydliadau y tu allan i’r Llyfrgell i gyflwyno adnoddau i gadwrfa’r Llyfrgell ar y we.