Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Llyfr Melyn Tyfrydog


Arfbais liwiedig teulu Llwydiarth Esgob (t. 40)
Arfbais liwiedig teulu Llwydiarth Esgob (t. 40)

(Llsgr. LLGC 23969F)

 

 

Dyma gyfrol o achau, cerddi a nodiadau hynafiaethol, dyddiedig 1766 (ond a luniwyd tua 1763-9), yn llaw'r bardd a’r uchelwr Hugh Hughes, ac sy’n dwyn y teitl ‘Llyfr Melyn Tyfrydog neu’r Gell Gymmysg’ (t. xxv). Prynwyd y gyfrol oddi wrth ddisgynyddion i Hugh Hughes yn Hydref 2007. Dyma’r llyfr achau cyntaf i gael ei ddigido yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.

 

 

Hugh Hughes

 

Roedd Hugh Hughes (Huw ap Huw / Huw Huws / Y Bardd Coch o Fôn, 1693-1776) yn fardd, golygydd a chyfieithydd o Lwydiarth Esgob ym mhlwyf Llandyfrydog, Ynys Môn. Dechreuodd Hughes farddoni yn ifanc a daeth i sylw'r hynafiaethydd a’r llenor enwog Lewis Morris (Llywelyn Ddu o Fôn, 1701-1765) a’i frodyr. Daeth felly yn ganolog i gylch llenyddol Morysiaid Môn ac yn aelod gohebol o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, sef cymdeithas ddiwylliannol Gymreig a sefydlwyd gan Lewis Morris a’i frawd Richard yn 1751. Rai blynyddoedd cyn diwedd oes Hugh Hughes ac wedi marwolaeth ei wraig, symudodd i Fynydd y Gof Du, Caergybi, i fyw. Bu farw yno ym Mai 1776, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys y Plwyf, Caergybi.

 

 

Arfbais teulu Henry Lloyd (t. 67)
Arfbais teulu Henry Lloyd (t. 67)

Y llawysgrif

 

Canolbwyntia rhan gyntaf y gyfrol ar achau disgynyddion Pymtheg Llwyth Gwynedd, y mwyafrif yn deuluoedd o Fôn (tt. 1-91; rhestrir y teuluoedd ar tt. xxvii-xxix). Ychwanegwyd arfbais liwiedig teulu Llwydiarth Esgob i gyd-fynd ag ach Hugh Hughes ei hunan ar t. 40.

 

Cynhwysa’r gyfrol hefyd nodiadau hynafiaethol, trioedd a chynghorion ynghyd â nifer helaeth o gerddi Cymraeg, rhai wedi eu copïo o ‘Delyn Ledr’ William Morris (1705-1763), Caergybi, ac eraill o gyfrol Evan Evans, Some specimens of the poetry of the antient Welsh bards (Llundain, 1764).

 

 

Ymysg cerddi cyfoes y llawysgrif, ceir rhai gan David Ellis (1736-1795), Evan Evans (‘Ieuan Brydydd Hir’, 1731-1788), Hugh Hughes, Robert Hughes (‘Robin Ddu yr Ail o Fôn’, 1744-1785), a Goronwy Owen (1723-1769). Diweddarwyd rhai o nodiadau hynafiaethol y gyfrol gan law arall yn ddiweddarach, hyd oddeutu 1858.

 

Trwsiwyd ac ail-rwymwyd y llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Cedwir y cloriau lledr gwreiddiol yn ddiogel gyda’r gyfrol, ynghyd â chopi o ewyllys Hugh Hughes, dyddiedig 27 Chwefror 1776, a dau ddernyn o lythyrau o’r 19eg ganrif.

 

Darllen pellach

 

  • Dafydd Wyn Wiliam, Hughes, Hugh (1693–1776), Oxford Dictionary of National Biography (Medi 2004),
  • Maredudd ap Huw, Diogelu “Llyfr Melyn Tyfrydog”, Tlysau’r Hen Oesoedd, 26 (Hydref), t. 3.

 

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 18-10-2010