Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Partneriaeth bersonol rhyngoch chi â'r Llyfrgell yw Penodau. Mae'n galluogi pobl ymroddedig fel chi i'n cefnogi ni yn ein gwaith a'n cynorthwyo i wireddu ein huchelgais. Fel aelod, byddwch yn derbyn amserlen unigryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig, er enghraifft:
Gellir ymuno â Phenodau fel Noddwr Unigol am dâl o £250 y flwyddyn.
Gellir ymuno â Phenodau fel Noddwyr ar y Cyd am dâl o £400 y flwyddyn.
Diolch am eich cefnogaeth.
Gweler isod y rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer 2013.
| Dyddiad | Digwyddiad |
|---|---|
| 16 Chwefror 2013 | 'Bywyd y Llyfrgellydd', bydd Andrew Green yn hel atgofion am ei gyfnod fel Llyfrgellydd yng nghwmni Dr R. Brinley Jones CBE. |
| 23 Ebrill 2013 | Bydd Rob Phillips yn ein cyflwyno i'r prosiect digido cyffrous sy'n creu casgliad digidol digymar o hanes Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf. |
| 25 Mehefin 2013 | Ymweliad preifat â Treberfydd, Llangasty, Aberhonddu trwy garedigrwydd Mr David Raikes. |
| 25 Medi 2013 | Derbyniad dros ginio yng nghwmni Aled Gruffydd Jones, fydd yn sôn am ei weledigaeth a'i syniadau wrth iddo ddechrau yn ei swydd newydd fel Prif Weithredwr a Llyfrgellydd. |
| 22 Hydref 2013 | Cyflwyniad i Adnau Cyfreithiol a Thrawsnewid Busnes yng nghwmni Shân Jones ac Owain Roberts. |
| 20 Tachwedd 2013 | Cyfle arbennig i glywed mwy am fywyd Catrin o Ferain yng nghwmni Dr Eryn White, Dr Paul Joyner a Dr Maredudd ap Huw. |
Am wybodaeth bellach ar y digwyddiadau uchod cysylltwch â Chydlynydd Penodau ar:
Ffôn: (01970) 632938
E-bost: penodau@llgc.org.uk