Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Barddoniaeth yn Rhyddiaith


(Cwrtmawr 114B)

 

 

 

Barddoniaeth yn Rhyddiaith, (Cwrtmawr 114B, t. 100).
Barddoniaeth yn Rhyddiaith, (Cwrtmawr 114B, t. 100).

Daeth y llawysgrif hon i’r Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o gasgliad J H Davies (1871-1926), Cwrtmawr, Llangeitho ar ei farwolaeth. Mae’n nodi iddo ei derbyn yn rhodd gan Edward Owen o Swyddfa'r India yn 1901. Yn ôl Daniel Huws mae'r rhan fwyaf o'r llawysgrif yn llaw John Hughes, offeiriad a fu’n gweinidogaethu naill ai yn Sir Gaernarfon neu yn Sir Fôn yn ystod yr 17eg ganrif.

 

 

Cynnwys y llawysgrif

 

Yn rhan gyntaf y llawysgrif, testunau crefyddol a geir yn bennaf: gweddïau, salmau a darnau eraill o’r Ysgrythur, ‘Ystori Peilat’ a ‘Buchedd Marged’. Yn yr ail ran ceir casgliad o ganu rhydd a chywyddau gan gynnwys gwaith gan Ddafydd ap Gwilym a Dafydd Ddu o Hiraddug.

 

 

Mae’r llawysgrif hefyd yn cynnwys copi o ‘Ymddiddan Tudur a Gronw’ gan y clerigwr Robert Holland (1556/7-1622). Ganwyd Holland yng Nghonwy ond treuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn gweinidogaethu mewn plwyfi yn Sir Benfro. Mae ei draethawd yn ddadl yn erbyn consurwyr a dewiniaid a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1600 ac sydd yn adlewyrchu diddordeb yr oes mewn gwrachyddiaeth. Yn ogystal ceir rhestr o argoelion tywydd yn seiliedig ar symudiadau’r lleuad ac ofergoelion poblogaidd yn gysylltiedig â dydd Calan.

 

 

Darllen pellach

 

  • Daniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes (Drafft 2007), [Copi yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth].

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 15-03-2010