Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Portread: Portreadau'r Cymry ar y We


Casgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r casgliad mwyaf o bortreadau Cymreig yn y byd. Mae’n cynnwys dros 65,000 o ddelweddau mewn ystod eang o gyfryngau, o ffotograffau i frasluniau, engrafiadau a gweithiau celf mewn ffrâm a cheir ynddo luniau o gymeriadau sy'n adnabyddus yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, o’r cyfnod cynharaf hyd at heddiw.

 

 

 

 

Ers derbyn ei Siarter Frenhinol yn 1907, mae'r Llyfrgell wedi bod yn prynu ac yn derbyn portreadau fel rhoddion neu gymynrodd. Mae datblygiad parhaus y casgliad yn cydymffurfio â nod y Llyfrgell, a amlinellir yn Siarter y Llyfrgell, sef: ‘casglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math a ffurf ar wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a Chenedl y Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy’n ymroi i ymchwil a dysg'.

 

 

Mrs. Ellen Lloyd / Hugh Hughes, 1845.

Derbyniodd y Llyfrgell Genedlaethol gefnogaeth ariannol gan Sefydliad Foyle a Sefydliad Garfield Weston i ddigido 15,000 o eitemau o’r Archif Bortreadau Cymreig.  Digidwyd y delweddau gan Uned Ddigido’r Llyfrgell; cynhyrchwyd copïau meistr digidol ar gyfer cadwedigaeth yn ogystal â delweddau addas i’w cyflwyno trwy gyfrwng y we.  Mae catalogwyr y prosiect wedi cynhyrchu cofnodion sy’n cydymffurfio â safonau rhyngwladol i gyd-fynd â phob eitem.  Yn y dyfodol agos, bydd modd chwilio’r casgliad cyflawn o ddelweddau trwy gyfrwng catalog y Llyfrgell.

 

Ewch i’r adrannau a ganlyn am ragor o wybodaeth am y casgliad: Ffurfiau, Artistiaid a Ffotograffwyr, Eisteddwyr. Mae Dysgu yn adran sy’n cynnwys ymarferion i gynorthwyo athrawon i gyflwyno portreadau i ddisgyblion.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-03-2011