Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 14 Rha 09 14:31:00
Bydd y Llyfrgell yn cau ddydd Iau 24 Rhagfyr am 15:00pm ac yn ailagor am 9.30am ddydd Llun 4 Ionawr.
Iau, 10 Rha 09 13:55:00
Bydd y rhai sydd am ddarganfod pwy yw pwy, neu’n hytrach pwy oedd pwy yng Nghymru ‘nawr yn gallu pori yn y diweddariad newydd i’r Bywgraffiadur Ar-lein. Ceir bellach bron i 5,000 o enwau ‘beirdd a chantorion, enwogion o fri’ ar y wefan safonol a dibynadwy ddwyieithog hon, wedi i enwau llawer o’r rhai a fu farw er 1970 gael eu hychwanegu i’r Bywgraffiadur.
Maw, 08 Rha 09 10:31:00
Bydd arddangosfa ‘Edrychiad Manwl’ gan un o artistiaid topograffigol gorau Cymru, Alan Percy Walker, yn cael ei chynnal yn y Llyfrgell o 7 Rhagfyr 2009 - 12 Chwefror 2010.
Llu, 30 Tac 09 16:54:00
Cynhelir sioe arddangos arbennig a derbyniad gwin yng nghwmni’r gemydd Mari Thomas yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru nos Wener, 11 Rhagfyr am 19:30 pm Trefnir y digwyddiad, a fydd ar agor i’r cyhoedd, dan faner Penodau, cynllun noddwyr unigol y Llyfrgell.
Llu, 16 Tac 09 12:09:00
Gallwch wylio darn o ddarlith y Prif Weindidog, Rhodri Morgan AM, a draddodwyd ar gyfer yr Archif Wleidyddol Gymreig ar 6 Tachwedd 2009 arlein. Gallwch hefyd ddarllen fersiwn print o'r cyfan.
Mer, 11 Tac 09 11:17:00
Ar adeg Diwrnod y Cadoediad, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch o gyhoeddi fod fersiwn ddigidol o’r copi gwreiddiol o gerdd enwog Hedd Wyn, Yr Arwr, nawr ar wefan y Llyfrgell.
Mer, 04 Tac 09 12:39:00
Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, sy’n traddodi darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig eleni ar ddydd Gwener 6 Tachwedd 2009.
Gwe, 23 Hyd 09 10:16:00
Fe'ch gwahoddir yn gynnes iawn i gyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr sydd i’w gynnal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin.
Gwe, 16 Hyd 09 16:21:00
Mae bellach dros 190,000 o ewyllysiau Cymru (drhyw 800,000 o dudalennau) wedi cael eu digido ac maent ar gael ar wefan y Llyfrgell.
Llu, 28 Med 09 16:37:00
Hoffai’r Llyfrgell Genedlaethol gynnig croeso cynnes i las fyfyrwyr Aberystwyth a thu hwnt, a chroeso nôl i’r hen lawiau!
Gwe, 25 Med 09 14:21:00
Ar 17 Hydref 2009 bydd rhai o sgwennwyr natur gorau Prydain ym Machynlleth. Byddant yno ar gyfer gŵyl undydd newydd i ddathlu a chofio gwaith y naturiaethwr a'r sgwennwr Bill Condry. Y Guardian yw Partner Cyfryngol yr ŵyl ac mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Academi a'r Llyfrgell Genedlaethol, cartref archif bersonol Bill Condry.
Gwe, 25 Med 09 10:19:00
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn cydweithrediad â'i phartneriaid ym Menter Cwm Gwendraeth a Chyngor Sir Caerfyrddin, wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau yng Nghwm Gwendraeth yr hydref yma.
Iau, 17 Med 09 11:34:00
Ar ddydd Gwener 18 Medi bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, yn ailagor Ystafell Ddarllen y Gogledd, yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Gwe, 11 Med 09 10:23:00
Malcome Pryce, Rhodri Morgan, Fflur Dafydd, Meredydd Evans, cyngherddau, lansiadau a sgyrsiau am hanes teulu ... dyma rai o’r bobl a’r digwyddiadau fydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth dros y misoedd nesaf.
Llu, 24 Aws 09 10:36:00
70 mlynedd ar ôl i Brydain fynd i ryfel â'r Almaen Naziaidd, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dadorchuddio copïau arlein o'r Cymro, sef cylchgrawn â gynhyrchwyd gan garcharorion rhyfel Cymraeg yn ystod eu cyfnod yn gaeth yng ngwersyll rhyfel Stalag IVB yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Maw, 18 Aws 09 08:15:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cyhoeddi heddiw bod mynediad am ddim ar gael i gyfrifiad 1911 i’w darllenwyr.
Gwe, 14 Aws 09 16:32:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi lanlwytho podcasts newydd i’w gwefan.
Maw, 11 Aws 09 12:31:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi cyhoeddi mai’r ffotograffydd Asantiaeth Magnum, David Hurn, yw un o brif siaradwyr gwadd Gŵyl ffotograffeg Lens eleni. Mae’r ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal ar Ddydd Gwener 20 Tachwedd yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.
Iau, 06 Aws 09 10:49:00
Mae’r Llyfrgellydd Cenedlaethol, Andrew Green, ymysg y Cymry â anrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.
Mer, 05 Aws 09 12:22:00
Cyhoeddwyd ddoe ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol mai yr awdures o Landysul Fflur Dafydd oedd ennillydd Gwobr Goffa Daniel Owen.
Gwe, 31 Gor 09 10:40:00
Rhaglen ddigwyddiadau y Llyfrgell Genedlaethol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gwe, 31 Gor 09 10:20:00
Avril Jones yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau newydd y Llyfrgell Genedlaethol, a bydd yn dechrau ar ei dyletswyddau newydd ym mis Awst.
Gwe, 03 Gor 09 12:56:00
Agorir arddangosfa haf o waith yr arlunydd Alistair Crawford, sydd bellach wedi ymsefydlu yn Aberystwyth, yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw (3 Gorffennaf).
Iau, 18 Meh 09 09:54:00
Roedd y Llyfrgell Genedlaethol yn falch o groesawu Mr Michael Peart, Cadeirydd Cymdeithas Prydain-Lithwania ar 27 Mai. Cyflwynodd Mr Peart rodd garedig i’r Llyfrgell, sef copi ffacsimile o un o arteffactau pwysicaf Lithwania, Beibl Chylinski.
Maw, 16 Meh 09 17:08:00
Bydd Kate Lawrence, perfformwraig dawnsio fertigol yn perfformio 'Descent of the Angel', dydd Gwener 19 Mehefin am 13:30 pm o do Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Maw, 16 Meh 09 10:21:00
Bydd archif gwych o leisiau pobl Cymru yn cael ei chyflwyno i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 16:15 pm, ddydd Mercher 17 Mehefin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Llu, 01 Meh 09 09:47:00
 phobl Cymru ar drothwy Etholiad ar gyfer Senedd Ewrop ar 4 Mehefin, mae Cymru hefyd yn chwarae ei rhan yn llawn fel gwlad Ewropeaidd ym maes celf yn ogystal â gwleidyddiaeth.
Iau, 28 Mai 09 16:02:00
O 1 Mehefin 2009 mi fydd y Llyfrgell Genedlaethol yn codi tâl ar ddefnyddwyr ac ymwelwyr am ddefnyddio maes parcio'r Llyfrgell.
Maw, 26 Mai 09 13:00:00
Gydag adeilad y Cynulliad wedi newid ei enw i Dŷ Hywel er cof am y brenin Hywel Dda a’i gyfreithiau, mae’n gymwys iawn fod copi o Gyfreithiau Hywel Dda i’w gweld yn Eisteddfod yr Urdd, ganllath o Dŷ Hywel, yng Nghaerdydd eleni.
Llu, 18 Mai 09 15:26:00
Fe fydd yr Athro Richard J Evans, hanesydd amlwg ac arbenigwr blaenllaw ar y cyfnod Natsïaidd yn dychwelyd i’w wreiddiau fel y siaradwr gwadd mewn darlith arbennig wedi ei threfnu gan gynllun noddwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Penodau.
Llu, 18 Mai 09 13:12:00
Nid yn unig mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ceisio arbed hen lawysgrifau, llyfau a mapiau ond mae hefyd am wneud ei rhan i arbed y byd – a hynny drwy lansio ‘roced’! Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi lansio ei chompostiwr ‘Rocket’, a brynwyd gyda grant o £17,307.50 a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Gronfa Offer Effeithlonrwydd Adnoddau’r Sector Gyhoeddus.
Mer, 13 Mai 09 12:12:00
Wrth i 714 miliwn o bobl fwrw’u pleidlais yng ngwlad ddemocrataidd fwyaf y byd, India, mewn 828,804 o orsafoedd pleidleisio ym 15fed etholiad y wlad ers ennill annibyniaeth, datgelodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth amrywiaeth helaeth o ddeunyddiau ethnig o’r wlad nas gwyddid amdanynt ynghynt.
Mer, 06 Mai 09 14:39:00
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gofyn i gynulleidfa fyd-eang o ddefnyddwyr gwefan ffotograffau Flickr, i’w helpu i enwi llefydd a phobl o Sir Faesyfed ganrif yn ôl.
Llu, 04 Mai 09 17:13:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch o gyhoeddi ychwanegiad pwysig at yr adnoddau sydd i’w canfod drwy ei datrusiad chwilio newydd Adnoddau Allanol.
Iau, 30 Ebr 09 12:11:00
Mae archif sgrin a sain y Llyfrgell Genedlaethol wedi derbyn enwebiad ar gyfer Gwobrau Focal eleni, a fydd yn cael eu cynnal yng ngwesty’r Royal Lancaster yn Llundain ar 5 Mai.
Iau, 23 Ebr 09 15:29:00
Mae copi o lythyr Pennal Owain Glyndŵr bellach i’w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r Llyfrgell yn un o chwe sefydliad drwy Gymru i arddangos y llythyr.
Mer, 15 Ebr 09 16:52:00
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones, fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian i greu adnodd digidol newydd cyffrous sy’n golygu y bydd pawb yn cael ymchwilio i hanes Cymru, dim ond iddynt glicio’r llygoden.
Maw, 31 Maw 09 13:54:00
Heddiw (31 Mawrth), bydd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones yn cyflwyno copïau o Lythyr Pennal i chwe sefydliad Cymreig.
Gwe, 06 Maw 09 17:37:00
Bydd y cerflunydd poblogaidd John Meirion Morris yn meddiannu Oriel Gregynog rhwng 28 Chwefror a 29 Mai 2009 ar gyfer arddangosfa adolygol o’i waith.
Gwe, 06 Maw 09 17:04:00
Llyfrgell Genedlaethol Cymru fydd yn cyflwyno cadair Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Bae Caerdydd eleni.
Gwe, 06 Maw 09 11:44:00
Mae ffilm fud nodedig am David Lloyd George a fu ar goll am ddegawdau bellach ar gael ar DVD.
Maw, 24 Chw 09 12:56:00
Ar Ddiwrnod y Llyfr, sef dydd Iau 5 Mawrth eleni, bydd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, yn ymweld â’r Llyfrgell.
Sad, 21 Chw 09 15:47:00
Bydd nifer o ymwelwyr i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a thrigolion Aberystwyth yn sylwi bod baner anghyfarwydd i rai yn chwifio uwchben adeilad y Llyfrgell dros ddydd Gŵyl Dewi.
Mer, 18 Chw 09 12:41:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol ar fin arddangos llythyrau gan yr actor Richard Burton i'w hen ffrind ysgol mewn arddangosfa o dderbynion diweddar y Llyfrgell.
Gwe, 06 Chw 09 13:19:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi lansio datrysiad chwilio newydd ar gyfer yr adnoddau electronig y mae’n tanysgrifio iddynt.
Llu, 02 Chw 09 12:25:00
Mae'r Llyfrgell yn chwilio am Drysorydd i ddechrau yn y swydd ar y 1 Awst 2009.
Llu, 02 Chw 09 12:10:00
Bydd Ffion Hague yn siaradwraig wâdd mewn darlith arbennig wedi ei threfnu gan gynllun noddwyr y Llyfrgell, Penodau. Cynhelir y ddarlith nos Iau, 5 Chwefror yn Theatr Reardon Smith, Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
Mer, 21 Ion 09 17:13:00
Mae Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CACC) yn cynnal ymchwil i asesu y potensial ar gyfer adnodd archifau arlein, trwy brosiect sy’n dwyn y teitl dros-dro ‘Cynefin’.
Maw, 20 Ion 09 11:58:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi dadorchuddio dyluniad ar gyfer labeli newydd, wedi eu hargraffu yn arbennig gan Wasg Gregynog, ar gyfer cymynrodd Syr Kyffin Williams.
Gwe, 16 Ion 09 16:11:00
Mae’r fersiwn ddiweddaraf o systemau teleffoni arobryn IntelliGate IP Aastra ar gyfer busnesau bach i ganolig yn cefnogi’r Gymraeg am y tro cyntaf ac yn cynnwys technoleg uwch i hyrwyddo effeithlonrwydd busnesau.
Llu, 12 Ion 09 14:05:00
Eleni eto fe fydd y Llyfrgell Genedlaethol yn agor ei drysau led y pen i wahodd pawb i ymuno yn ein Diwrnod Agored blynyddol ar ddydd Sadwrn 24 Ionawr.
Gwe, 09 Ion 09 09:42:00
Ar hyn o bryd, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfa deithiol o 10 o luniadau gan Leonardo da Vinci o’r Casgliad Brenhinol, Windsor. Fodd bynnag, wrth archwilio archif y Llyfrgell ei hun, gwelir nad dyma ymweliad cyntaf y Meistr Eidalaidd â thref Aberystwyth.