Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn casglu gwybodaeth bersonol at ddibenion sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â gwasanaeth, swyddogaeth neu weithgaredd gan y Llyfrgell. Mae'r Llyfrgell yn cadw'r wybodaeth hon yn ddiogel yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998. Mae'r Llyfrgell yn casglu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion:
Cedwir eich gwybodaeth bersonol am gyfnod rhesymol. Efallai y byddwn ambell waith yn cysylltu â thrydydd parti i gyflenwi gwasanaeth i ni (er enghraifft, cwmni postio o dan gytundeb i anfon cylchlythyr y Llyfrgell atoch) ond ni fyddwn yn caniatáu i drydydd parti ddefnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd heblaw'r hyn a gynhwysir yn ein cytundeb ni. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion i unrhyw gorff arall.
O dan y Ddeddf Gwarchod Data mae gennych hawl i dderbyn copi o'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. I weithredu'r hawl hon dylech wneud cais ysgrifenedig ar ffurflen Cais Mynediad Testunol y Llyfrgell a'i hanfon at Swyddog Gwarchod Data'r Llyfrgell, sef Mr Arwel Jones. Dylid anfon tâl o £10 gyda'r ffurflen, sef tâl gweinyddol y Llyfrgell am y gwasanaeth. Ni ellir ad-dalu'r swm hwn. Byddwn yn ceisio ymateb i unrhyw gais o fewn 40 diwrnod calendr. Mae gennych hefyd yr hawl i gywiro unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch.
Os penderfynwch yn y dyfodol y byddai'n well gennych beidio â derbyn gwybodaeth hysbysebol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, neu os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am Bolisi Gwarchod Data'r Llyfrgell, cysylltwch â'r Swyddog Gwarchod Data, Mr Arwel Jones (ffôn: 01970 632801, e-bost dpo@llgc.org.uk).
I weld cofnod cyfredol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn y Gofrestr Gwarchod Data (rhif cofrestr Z7670787).