Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cardiau ymweld bach oedd cartes de visite oedd gan amlaf yn mesur tua 4 ½ x 2 ½ modfedd (11.4 x 6.3 cm). Rhoddid ffotograff du a gwyn ar y cerdyn. Yn aml byddai’n ffotograff o rywun enwog. Cyflwynwyd y rhain gan ffotograffydd o Baris, Andre Disdéri. Yn 1854 dyfeisiodd ffordd i dynnu nifer o ffotograffau ar un plât, a thrwy hynny leihau costau cynhyrchu.
Roeddent yn hynod o boblogaidd yn y 1860au, ac yn aml roeddent yn cael eu casglu mewn albymau portreadau Fictoraidd. Daeth y ddyfais newydd mor boblogaidd fel y’i galwyd yn ‘cardomania’ ac ymhen amser lledaenodd ledled y byd. Yn aml câi enw a chyfeiriad y ffotograffydd ei argraffu ar gefn y cardiau, yn aml gydag addurn.
Dyfeisiwyd y Woodburyteip, math o ailgynhyrchu ffotograff yn ffotofecanyddol, yn 1864 gan Walter Bentley Woodbury (1834-1885). Er gwaethaf y gofal manwl oedd ei angen i gynhyrchu’r printiau hyn, roeddent yn dal yn boblogaidd tan tua 1900 oherwydd ansawdd y llun terfynol.
Y cam gyntaf yn y broses o greu Woodburyteip yw dinoethi’r ffilm gelatin cromad i olau o dan negatif. Mae’n caledu yn ôl faint o olau y caiff ei ddinoethi iddo. Yna mae’n cael ei ddatblygu mewn dŵr poeth i gael gwared ar yr holl gelatin sydd heb galedu, a’i sychu. Caiff y copi hwn ei wasgu ar haenen o blwm mewn gwasg, a ddefnyddir fel mowld ac fe’i llenwir â gelatin sy’n cynnwys pigment. Yna caiff yr haen gelatin ei gwasgu ar bapur i gwblhau’r broses.
Pan gollodd y carte de viste ei newydd-deb, cyflwynwyd y llun cabinet oedd yn fwy o faint (c.1866). Fe’i cynhyrchid drwy ddefnyddio’r un dull â’r carte, roedd y ffaith ei fod yn fwy o faint yn dangos mwy o fanylder yn wynebau’r bobl. Gellid ei ddefnyddio ar gyfer lluniau grŵp a theuluoedd hefyd, a gallai gynhyrchu lluniau o ansawdd uwch na’r carte llai.
Câi printiau cabinet eu gosod ar gardiau oedd yn mesur tua 6¼ x 4¼ modfedd (15.9 x 10.8 cm). Galwyd y ffurf newydd, a gyflwynwyd gan y ffotograffydd, Frederick Richard Window, o Lundain, yn ‘llun cabinet’ oherwydd gellid arddangos ffotograff mawr ar gerdyn cryf ar ben cabinet pren neu ddodrefnyn tebyg.
Cynhyrchid coloteip yn ffotofecanyddol o lun ffotograffig, gyda phrosesau oedd yn debyg i’r broses brintio lithograffig. Defnyddid y broses yn bennaf rhwng tua 1870 a 1920, ac mae’n dal i gael ei defnyddio o bryd i’w gilydd.
Y cam gyntaf yn y broses oedd rhoi haen o hydoddiant gelatin yn sensitif i olau ar blât wydr, a’i ddinoethi o dan negatif. Roedd y gelatin yn caledu yn ôl faint o olau oedd yn mynd drwyddo. Roedd y gelatin meddal yn amsugno’r dŵr wrth gael ei olchi tra bod y gelatin oedd wedi caledu yn ei wrthyrru. Ar ôl i’r plât gwydr gael ei olchi, roedd yn cael ei incio. Roedd yr inc yn glynu yn y gelatin oedd wedi caledu ac yn creu print ar bapur.
Proses printio ffotofecanyddol yw ffoto-engrafiad ar gyfer ailgynhyrchu nifer o ffotograffau. Dyfeisiwyd y broses yn 1879 gan Karl Klic o Fienna. Y cam gyntaf yn y broses yw rhoi haen wastad o sylwedd gwrthasid ar blât copr disglair. Gwneir tryloywlun positif o’r negatif. Gorchuddir un ochr i’r papur sidan â gelatin wedi’i sensiteiddio â photasiwm deucromad, ac yna caiff ei ddinoethi i olau o dan y copi positif.
Bydd y gelatin yn caledu mwy ar y rhannau hynny sy’n dod i gysylltiad â mwy o olau. Caiff y papur sidan gwlyb ei wasgu, ochr y gelatin ar i lawr, ar y plât copr. Tynnir y papur ar y cefn i ffwrdd yn y dŵr cynnes. Rhoddir y plât mewn cyfres o faddonau asid. Bydd yr ysgythru’n ddyfnach yn y rhannau sydd â llai o gelatin. Ar ôl i’r plât gael ei olchi’n drwyadl, caiff yr engrafiad ei brintio mewn gwasg ysgythru, fel pob math arall o brintio intaglio.
Y diffiniad eang ohono yw ffotograff a gymerir yn gyflym a heb baratoi, a wneir gan bobl gyffredin i gofnodi digwyddiadau yn eu bywydau a’r lleoedd y maent wedi byw ynddynt ac ymweld â hwy. Mae’r term yn cael ei gysylltu hefyd â’r diddordeb mawr sydd gan artistiaid yn y ciplun du a gwyn ‘clasurol’.
Cyflwynwyd cysyniad y ciplun i’r cyhoedd ar raddfa fawr gan Eastman Kodak Company, a gynhyrchodd y camera bocs Brownie yn 1900.
Defnyddir y broses gelatin arian hyd heddiw gyda ffilmiau du a gwyn a phapurau printio. Y cam gyntaf yn y broses yw rhoi halwynau arian mewn gelatin er enghraifft ar wydr neu bapur â chôt o resin arno. Pan ddinoethir yr halwynau arian i olau, rhyddheir rhai gronynnau o arian metelig, gan ffurfio llun anweledig.
Datblygir ffilmiau drwy ddefnyddio hydoddiant sy’n lleihau’r gronynnau arian. Mae’r cryfder, tymheredd a’r amser a neilltuir i’r hydoddiant weithio, yn caniatáu i’r ffotograffydd reoli’r cyferbyniad yn y llun terfynol. Yna mae’r broses yn cael ei ‘hatal’ drwy niwtraleiddio’r hydoddiant mewn ail faddon. Ar ôl cwblhau’r broses ddatblygu, rhaid cael gwared â’r halwynau arian drwy drochi’r ffotograff mewn hydoddiant sefydlogi, ac yna rhaid golchi’r print mewn dŵr glân. Mae’r llun terfynol yn cynnwys arian metelig wedi ei ymgorffori mewn haenen gelatin.
Datblygwyd printiau gelatin-arian yn y 1870au ac erbyn 1895 roeddent wedi disodli printiau albwmin oherwydd eu bod yn fwy sefydlog, yn symlach i’w cynhyrchu, a nid oeddent yn melynu.
Baldwin, Gordon, 1991. Looking at photographs: a guide to technical terms. Los Angeles, CA: J. Paul Getty Museum ; London: British Museum Press.
Gascoigne, Bamber, 2004. How to identify prints: a complete guide to manual processes from woodcut to inkjet. 2nd edition. London: Thames & Hudson.
National Portrait Gallery, ‘Glossary of art terms’ [rhyngrwyd]. Ar gael ar: http://www.npg.org.uk/collections/explore/glossary-of-art-terms1.php
V&A, ‘Photographic processes’ [rhyngrwyd]. Ar gael ar: http://www.vam.ac.uk/vastatic/microsites/photography/processes.php