Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Ysgythrwyr


Abraham Rees / W. Holl, 1811.

William Holl y tad (1771-1838)

 

Daeth y teulu Holl, oedd yn wneuthurwyr printiau, (ca.1800-1884) i amlygrwydd gyntaf drwy waith y tad, sef William Holl (1771-1838). Câi ei brintiau ef eu gwneud yn bennaf drwy ddefnyddio’r dechneg dotwaith ac roedd ei waith yn cynnwys nifer o blatiau o bortreadau a cherfluniau oedd yn atgynyrchiadau o waith artistiaid cyfoes.

 

Roedd yn un o’r ysgythrwyr cyntaf i roi cynnig ar fowld newydd y plât dur ar gyfer ysgythru arian papur yn 1819. Bwriodd ei bedwar mab brentisiaeth gyda’u tad fel ysgythrwyr, sef William Holl y mab (1807-1871), Charles  Holl (ca.1810-1882), Henry Benjamin Holl (1808-1884) a Francis Holl (1815-1884).

 

 

 

 

Arglwydd Granville Somerset / F.C. Lewis, ca.1820.

Frederick Christian Lewis (1779-1856)

 

Roedd Lewis yn ysgythrwr, yn ogystal ag yn ysgythrwr acwatint a dotwaith, ac yn arlunydd tirluniau a phortreadau. Astudiodd dan arweiniad  J. 0. Stadler, a bu’n fyfyriwr yn yr Academi Frenhinol. Cafodd ei benodi’n ysgythrwr i Siôr IV, William IV a’r Frenhines Fictoria. Gwaith gan Syr Thomas Lawrence a ysgythrai’n bennaf, nes bu farw’r artist yn 1830.

 

Peintiodd dirluniau, a ganolbwyntiai’n bennaf ar olygfeydd o Swydd Dyfnaint a chyhoeddodd nifer o blatiau’n darlunio afonydd Swydd Dyfnaint rhwng 1821 a 1843, yn ogystal ag ysgythriadau o’r Scenery of the Rivers of England and Wales 1845-7. Yn ogystal ag ysgythriadau dotwaith a llin-ysgythriadau, mae rhai ysgythriadau acwatint topograffigol (ca.1845) gan Lewis yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell.

 

 

 

Eliza Cook / D. J. Pound, ca.1860.

Daniel J. Pound (fl. 1842-1877)

 

Ysgythrwr portreadau oedd Pound yn bennaf a chreodd y rhan fwyaf o’i bortreadau drwy gopïo ffotograffau gan John Jabez Edwin Mayall (1813-1901). Daeth yn feistr ar y dull hwn o atgynyrchiadau wedi’u hysgythru.

 

Ymddangosodd nifer o’i bortreadau yn y gyfres, ‘The Drawing Room Portrait Gallery of Eminent Personages’, yn yr Illustrated News of the World.

 

 

 

 

 

 

 

Christmas Evans / William Roos, 1835.

William Roos (1808-1878)

 

Roedd Roos yn arlunydd portreadau ac yn ysgythrwr mesotint poblogaidd. Fe’i ganed ger Amlwch, Gogledd Cymru, yn 1808. Er mai yng Nghymru yr oedd yn byw, treuliodd gyfnodau yn Llundain a theithiai’n aml fel rhan o’i waith yn gwneud portreadau. Gwnaeth nifer o bortreadau o enwogion Cymru ar y pryd, gan gynnwys John Elias, Christmas Evans a John Jones, ‘Talhaiarn.’

 

Roedd yn feistr ar beintio portreadau olew ac ysgythriadau mesotint, ond hefyd gwnaeth beintiadau tirlun, bywyd llonydd a dyfrlliw. Peintiodd rai tirluniau hanesyddol ar gyfer cystadlaethau’r Eisteddfod ac enillodd wobrau am ei beintiadau o ‘Farwolaeth Owain Glyndŵr’ a ‘Marwolaeth Capten Wynn yn Alma’ yn Eisteddfod Llangollen yn 1858.

 

Am fwy o wybodaeth, gweler y Bywgraffiadur Arlein

 

 

 

Syr Watkin Williams Wynn / George Vertue, 1742.

George Vertue (1684-1756)

 

Ganed George Vertue, ysgythrwr a hynafiaethydd, yn Llundain yn 1684. Dechreuodd hyfforddi dan arweiniad ysgythrwr anhysbys o Ffrainc (c.1698-1701), ac yna bwriodd ei brentisiaeth gyda Michael van der Gucht (1600-1725) tan 1709. Yna sefydlodd ei hun fel ysgythrwr annibynnol, gan gynhyrchu gwaith amrywiol, yn arbennig atgynyrchiadau o bortreadau gan Syr Godfrey Kneller.

 

Yn 1717 fe’i penodwyd yn ysgythrwr i’r Gymdeithas Hynafiaethwyr, gan gyfrannu at ei Vetusta monumenta. Erbyn canol y 1730au roedd yn cael ei ystyried yn un o’r  ysgythrwyr gorau am wneud atgynyrchiadau. Roedd nifer o’i ysgythriadau’n seiliedig ar bortreadau ac arddelwau o bobl hanesyddol. Roedd rhai o’i enghreifftiau’n cynnwys ei gyfres o naw o ‘Brintiau Hanesyddol’ o beintiadau o’r cyfnod Tuduraidd,  ac ysgythriadau o bortreadau ar gyfer The heads of illustrious persons of Great Britain (Llundain, 1747), ymdrech ar y cyd â’r ysgythrwr Jacobus Houbraken.

 

Roedd Vertue yn aelod amlwg o glybiau’r artistiaid  ac academïau preifat y cyfnod. Roedd hefyd yn adnabyddus fel hynafiaethydd, ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes artistig a diwylliannol Prydain.

 

 

Llyfryddiaeth

Hilary Chapman, ‘Holl family (per. c.1800-1884)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004  http://www.oxforddnb.com/view/article/65035

 

Hunnisett, Basil, 1989. An illustrated dictionary of British Steel engravers. Aldershot : Scolar Press.


Jones, Bedwyr Lewis, 1969. William Roos yr artist 1808-73. Anglesey Antiquarian Society and Field Club.


Rees, T. Mardy, 1912. Welsh painters, engravers, sculptors 1527-1911. Carnarvon : Welsh Pub. Co. ; Newport, Mon. : J.E. Southall.


Turner, Jane (ed.), 1996. The dictionary of art. Basingstoke : Macmillan.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 20-04-2010