Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ar y tudalennau hyn ceir ymarferion i gynorthwyo athrawon i gyflwyno portreadau i ddisgyblion. Mae’r cyntaf wedi ei anelu at ddisgyblion yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, tra bod yr ail yn fwy addas ar gyfer disgyblion yng nghyfnodau allweddol 3 a 4. Yn naturiol gellir eu haddasu a’u cyflwyno i bobl ifanc o bob oed.
Mae'r adran gyntaf yn ystyried 'beth yw portread?' ac mae'n cymharu portreadau gyda mathau eraill o ddelweddau neu weithiau celf. Mae'r ail adran yn trafod y prif resymau dros greu portread, a beth fedrwn ni ei ddysgu am bortreadau'n gyffredinol o edrych yn fanwl ar un portread arbennig. Mae'r adran olaf 'Y Cwricwlwm yng Nghymru' yn esbonio sut y gellir defnyddio'r ymarferion i gyflwyno rhannau o'r cwricwlwm ysgol yng Nghymru. Mae cynnwys yr adrannau ar gael ar ffurf pdf i’w lwytho i lawr a’i ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Fe’u lleolir ar ddiwedd pob adran.