Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Brwydrau Alecsander Fawr


Coroni Alecsander (f. 60v.)
Coroni Alecsander (f. 60v.)

 

 

Ysgrifennwyd llawysgrif Peniarth 481D ar femrwn yn niwedd y 15fed ganrif. Mae dwy ran i’r llawysgrif, ac mae’n debyg i’r ddwy ran gael eu rhwymo’n un gyfrol o’r cychwyn cyntaf, yn Lloegr yn ôl pob tebyg. Dyma un o lawysgrifau canoloesol harddaf eu haddurn y Llyfrgell, ac mae’n enghraifft brin o oroesiad mewn rhwymiad gwreiddiol.

 

 

Cynnwys

 

Ysgrifennwyd rhan gyntaf y llawysgrif gan Sais, a’i darlunio gan grefftwr o Fflandrys. Mae ynddi ddau destun, sef:

 

  • Cynghorion a diarhebion a ffurfiai werslyfr Lladin poblogaidd o’r enw Disticha Catonis (‘Cwpledi Cato’), gydag ychwanegiadau o aralleiriad Benedict Burgh mewn penillion rheiol Saesneg Canol (ff. 1-27);
  • Testun Lladin yr Historia de preliis Alexandri Magni (‘Hanes Brwydrau Alecsander’, fersiwn J1), yn seiliedig ar gyfieithiad Lladin Leo o Napoli, a luniwyd yn y 12fed ganrif, o destun Groeg (ff. 30-98).

 

Ysgrifennwyd ac addurnwyd ail ran y llawysgrif yng Nghwlen (ff. 99-167). Ceir ynddi destun yr Historia trium Regum (‘Hanes y Tri Brenin’), a ysgrifennwyd gan John o Hildesheim yn y 14eg ganrif, ac sy’n esbonio presenoldeb creiriau Tri Gŵr Doeth Efengyl Mathew yn ninas Cwlen yn yr Almaen.

 

 

Priodas Alecsander â merch Darius (f. 61v.)
Priodas Alecsander â merch Darius (f. 61v.)

Darluniau

 

Addurnwyd rhan gyntaf y llawysgrif gyda 30 mân-ddarlun yn arddull Fflandrys. Ceir 4 mân-ddarlun, yn bennaf o’r awdur a’i gyfieithydd, i gyd-fynd â’r Disticha Catonis, a cheir 26 i gyd-fynd â’r Historia de preliis, nifer ohonynt wedi eu rhannu, gan ddarlunio cyfanswm o 47 golygfa. Roedd stori boblogaidd bywyd Alecsander Fawr yn destun delfrydol ar gyfer y darlunydd canoloesol. Addurnwyd ymylon dail y testun yn hardd hefyd, a goreurwyd rhai prif lythrennau.

 

 

 

 

Llsgr. Peniarth 481D
Llsgr. Peniarth 481D

Rhwymiad

 

Dyma un o’r ychydig lawysgrifau canoloesol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn ei rhwymiad gwreiddiol. Fe’i rhwymwyd mewn cloriau pren wedi eu gorchuddio â melfed rhuddgoch, ac mae ar y cloriau hefyd foglymau efydd, gorchuddion i’r corneli, a phinnau a bachau ar gyfer careiau. Yn ôl pob tebyg, cafodd y llawysgrif ei rhwymo yn Lloegr yn niwedd y 15fed ganrif.

 

Hanes y llawysgrif

 

Erys peth dirgelwch ynglŷn â hanes cynnar y llawysgrif. Bu’n eiddo i Syr John Cutts o Childerly, swydd Gaergrawnt (bu f. 1615) a’i gyfoeswr Thomas Gawdy o Snitterton, swydd Norfolk. Wedi hynny, mae’n bosibl iddi fod yn llyfrgell Syr Kenelm Digby (1603-1665), y bu i’w wyres briodi Richard Mostyn (1658-1735) o Benbedw, sir Fflint. Dengys y llyfrblat sydd ynddi fod y llawysgrif ym Mhenbedw ar ddechrau’r 19eg ganrif, ac fe’i trosglwyddwyd wedyn yn sgil priodas i blasty Peniarth, Meirionnydd. Cafodd ei heithrio o werthiant llawysgrifau Peniarth i Syr John Williams ym 1904, ond fe’i prynwyd yn ddiweddarach gan Miss Gwendoline a Miss Margaret Davies o Regynog, a’i cyflwynodd yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1921.

 

Darllen pellach

 

  • W.Ll. Davies, ‘Disticha Catonis’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2 (1941-2), 38
  • D.J.A. Ross, Alexander Historiatus: A Guide to Medieval Illustrated Alexander Literature (Llundain, 1963)
  • Eiluned Rees, ‘Bookbindings in the National Library of Wales: a late medieval velvet binding’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 24 (1985-6), 147-8
  • Telfryn Pritchard, ‘The Peniarth Historia de Preliis’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 26 (1989-90), 229-39
  • R. Telfryn Pritchard, The History of Alexander’s Battles: Historia de preliis – the J1 version (Toronto, 1992)

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 18-10-2010