Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Beth yw portread, a sut mae dweud y gwahaniaeth rhwng portreadau a mathau eraill o luniau neu weithiau celf?
Mae’r gair portread yn gallu cyfeirio at lawer o bethau gwahanol. Gall fod yn ddarlun, ffotograff, neu gerflun o berson. Mae portreadau yn ceisio cyfleu rhywbeth am y person sy’n cael ei bortreadu, boed hynny drwy greu darlun tebyg o’r person neu ddweud rhywbeth am ei bersonoliaeth.
Fel arfer bydd wyneb y person sy’n cael ei bortreadu yn elfen ganolog mewn portread, ac yn aml mae’r person wedi ei osod i eistedd neu sefyll mewn ffordd arbennig. Bydd y person sy’n cael ei bortreadu hefyd gan amlaf yn edrych ar yr arlunydd, y cerflunydd neu’r ffotograffydd.
Dywedwch pa rai o’r delweddau hyn sy’n bortreadau, a rhowch resymau dros ddweud hynny.
Mae cynnwys yr adran hon ar gael ar ffurf pdf i'w lwytho i lawr a'i ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth.