Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Beth yw’r prif rhesymau dros greu portread, a beth allwn ni ddysgu am bortreadau o edrych yn fanwl ar un portread?
Mae portreadau gwahanol yn cael eu creu am resymau gwahanol. Weithiau bydd modd i ni ddyfalu’n weddol sicr pam bod portread wedi cael ei greu dim ond o edrych arno. Wrth gwrs, mae’r rhesymau dros greu portreadau, yn ogystal â’r dull o fynd ati i’w creu yn gallu amrywio dros amser.
Trafodwch y rhesymau canlynol dros greu portread:

a. Trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn mewn grwpiau a gwnewch gofnod o’ch atebion.
b. Ar ôl gwneud hynny darllenwch y wybodaeth am y person sydd yn y ffotograff.
c. Cymharwch eich atebion chi i’r cwestiynau gyda’r hyn ddysgoch chi wrth ddarllen am y person yn y ffotograff.
d. Ystyriwch os oedd eich disgrifiad chi o’r person yn weddol debyg i’r hyn sy’n cael ei ddweud amdano.
1. Beth sydd yn y ffotograff?
2. Pam gafodd y ffotograff ei dynnu?
3. Ydy’r ffotograff yn un diddorol?
4. Ydy’r ffotograff yn un lliw neu un du a gwyn?
5. O ba gyfnod y daw’r ffotograff?
1. Pa mor hen yw’r person?
2. Beth mae’n gwisgo?
3. Sut mae’n edrych?
4. Oes rhywbeth arall yn y ffotograff sy’n cynnig cliwiau am y person?
5. Oes rhywbeth yn y cefndir?
1. Ydy osgo’r person yn dweud rhywbeth amdano?
2. Sut mae’r person yn y ffotograff yn teimlo?
3. Sut mae’n gwneud i chi deimlo?
4. Ydy’r ffotograffydd yn ceisio cyfleu rhywbeth amdano?
5. Ydy’r person a’r ffotograff yn apelio atoch chi?
Mae’r ffotograff yn dangos R.S. Thomas (1913-2000), offeiriad ac un o feirdd enwocaf Cymru yn yr iaith Saesneg. Mae ei farddoniaeth yn enwog ar draws y byd, ac yn 1996 cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Llenyddiaeth Nobel. Cynhyrchodd dros ugain cyfrol o farddoniaeth yn ymwneud â chrefydd, natur a diwylliant cenedlaethol Cymreig.
Roedd Thomas yn mwynhau byw a gweithio yng nghefn gwlad a threuliodd ei yrfa fel offeiriad mewn plwyfi gwledig yng Nghymru. Roedd ganddo farn gref ar lawer o bynciau. Roedd yn genedlaetholwr pybyr a theimlai’n ddig wrth weld y wlad yn Seisnigeiddio. Roedd e hefyd yn heddychwr brwd a gefnogai Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear (CND). Fe wnaeth e siarad mewn ralïau ac roedd e’n aml yn anfon llythyrau at y wasg.
Mae’n cael ei gofio fel un o’r beirdd mwyaf disglair a ysgrifennai yn Saesneg yn ail hanner yr 20fed ganrif.
Mae cynnwys yr adran hon ar gael ar ffurf pdf i’w lwytho i lawr a’i ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth.