Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Drwy ddilyn yr ymarferion hyn bydd y disgyblion yn cyflawni rhai o’r gofynion sy’n cael eu crybwyll yn y ddogfen Celf a dylunio yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru (2008). Yn ogystal â datblygu sgiliau ar draws y cwricwlwm, gall yr ymarferion gyfoethogi’r Cwricwlwm Cymreig, a chynorthwyo disgyblion i gael mynediad i waith celf a dylunio hanesyddol a chyfoes o Gymru a fydd yn cyfoethogi’u gweithgareddau creadigol.
Yn benodol yng Nghyfnod Allweddol 2 bydd yr ymarferion yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion archwilio ac arbrofi â’r dulliau a ddefnyddiwyd gan artistiaid, crefftwyr a dylunwyr eraill, ac yng Nghyfnod Allweddol 3 byddant yn cael y cyfle i ddefnyddio’u gwybodaeth am waith artistiaid, crefftwyr a dylunwyr eraill i gyfoethogi a llywio’u gwaith eu hunain trwy ddadansoddi, cymharu a gwerthuso.
Mae’r ymarferion hefyd yn addas ar gyfer y sawl sy’n dewis astudio Celf a Dylunio i safon TGAU, ac yn cynnig y cyfle i gyflawni rhai o ofynion manyleb Celf a Dylunio 2009 CBAC, yn arbennig wrth edrych ar:
· sut y mae syniadau, teimladau ac ystyron yn cael eu cyfleu a’u dehongli mewn delweddau, arteffactau a chynhyrchion;
· y berthynas rhwng delweddau, arteffactau a chynhyrchion a chyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol, galwedigaethol a diwylliannol;
· amrywiol dechnegau, dulliau a bwriadau artistiaid, crefftwyr a dylunwyr cyfoes a hanesyddol o wahanol ddiwylliannau.
Mae cynnwys yr adran hon ar gael ar ffurf pdf i’w lwytho i lawr a’i ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth.