Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Os ydych yn cwblhau ffurflen dreth hunan-asesiad, gallwch enwebu Llyfrgell Genedlaethol Cymru i dderbyn unrhyw ad-daliad treth sy'n ddyledus i chi. Bydd y Llywodraeth yn trin yr ad-daliad hwn fel Cymorth Rhodd. Golyga hyn bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn 25c yn fwy am bob £1 a roddir - a hynny heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Unwaith y prosesir eich ffurflen dreth a chadarnhau bod ad-daliad yn ddyledus, bydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn talu'r swm yn syth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Beth mae hyn yn ei olygu:
I sicrhau bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn eich ad-daliad treth, a fyddech gystal â sicrhau eich bod yn cynnwys ein rhif adnabod unigryw ar eich ffurflen hunan-asesiad. Y rhif yw SAQ45BG.
Cymorth Rhodd
Gallwch gynyddu gwerth eich rhodd o 25% - eto, heb unrhyw gost ychwanegol i chi - drwy roi tic yn y blwch Cymorth Rhodd ar eich ffurflen dreth hunan-asesiad. Wedyn bydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn talu 25c ychwanegol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am bob £1 y byddwch yn ei roi. Noder bod rhaid i chi fod yn talu o leiaf cymaint o dreth y DU neu enillion treth cyfalaf ar gyfer y flwyddyn dreth y byddwch yn rhoi ynddi â'r swm y byddem yn ei adhawlio ar y rhodd. Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth.