Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Support Us

Support Us

Penodau: Noson yng nghwmni Terry Jones


 

Ar y 14eg o Ebrill ymwelodd Terry Jones, y cyn aelod o Monty Python, á'r Llyfrgell er mwyn cyflwyno ei ddarlith enwog ar Medieval Lives. Roedd y noson lwyddiannus yma yn un o uchafbwyntiau rhaglen ddigwyddiadau Penodau dros 2010. Rhoddodd gyfle gwych i wrando ar Terry'n herio sawl agwedd o'r fytholeg sy'n bodoli am y cyfnod canol oesol.

 

Cyn y digwyddiad gyda'r nos, trefnwyd iddo gael taith o'r Llyfrgell a gweld nifer o'r trysorau canol oesol, gan gynnwys yr Hengwrt Chaucer a chyfieithiad Cymraeg cynnar o'r Greal. Ymwelodd Terry â'r Archif Sgrin a Sain Cenedlaethol a siarad gyda'r arbenigwyr yno, a gweld sut mae'r isadran Ddigido'n gweithio i osod ein llawysgrifau canol oesol arlein.

 

 

Ymweliad Terry Jones â LlGC

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 04-03-2011