Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn berchen ar, yn cynhyrchu ac yn defnyddio gweithiau sydd wedi eu gwarchod gan hawlfraint. Wrth gasglu, cadw a rhoi mynediad i’r gweithiau hynny, mae’n bwysig ein bod yn trin a thrafod hawliau yn y dull priodol. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod ein bod yn ymdrin â hawliau yn ddiwyd a chytbwys, a’n bod yn gweithredu yn ddidwyll bob amser.
Fel rhan o’n hymgais i adnabod ac olrhain deiliaid hawliau, mae rhestr o grewyr, gweithiau a chyhoeddwyr yr ydym yn chwilio am ddiliaid hawliau ar eu cyfer yn cael ei gyhoeddir a’i ddiweddaru yn gyson ar ein tudalen Chwilio am Berchnogion Hawlfraint.
Os oes gennych hawl dros waith sy'n cael ei arddangos ar y wefan ac yn gwrthwynebu’r defnydd a wneir ohono, gallwch wneud cais i’w dynnu oddi ar y wefan drwy ysgrifennu at takedown@llgc.org.uk. Bydd eich cais yn cael ei brosesu yn unol â’n Polisi Hysbysu a Chymryd i Lawr. Os ydych yn gwybod am unrhyw achosion ble nad yw'r deiliaid hawlfraint wedi eu cydnabod yn gywir rhowch wybod i ni drwy lenwi'r Ffurflen Ymholiadau Arlein, os gwelwch yn dda, fel y gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol.
Ceisiwn gyflwyno gwybodaeth hawliau ar ein gwefan mewn dull eglur a chryno a gofynnwn yn garedig i chi barchu’r hawliau sy’n gysylltiedig â’r eitemau.
Ceir rhagor o wybodaeth am ymdriniaeth y Llyfrgell o Hawliau Eiddo Deallusol yn y Polisi Hawliau Eiddo Deallusol.
Casgliadau digidol
Mae’r holl eitemau o fewn i’r casgliadau digidol yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:
CC Cydnabyddiaeth-Anfasnachol-RhannuYnYrUnModd
CC Cydnabyddiaeth-Anfasnachol-DimGweithiauDeilliadol
Bydd gwybodaeth hawliau ar gyfer eitemau a chasgliadau penodol yn cael eu diweddaru dros amser i adlewyrchu’r fframwaith newydd ar gyfer trwyddedu a labelu casgliadau digidol a chynnwys arall.
Archebu copïau ansawdd uchel a gwneud ceisiadau i ddefnyddio mewn ffyrdd sydd fel arall yn waharddedig
Gallwch wneud cais am gopi ansawdd uchel neu ganiatâd i ddefnyddio eitem mewn modd sy’n waharddedig ar y wefan drwy lenwi’r Ffurflen Ymholiadau Ar-lein.
Noder os gwelwch yn dda ei bod yn bosibl y bydd angen caniatâd y deiliad hawlfraint arnoch cyn y gallwn ddarparu copi.
Metadata a gwybodaeth destunol arall
Mae metadata (gwybodaeth am y casgliadau) a gwybodaeth destunol arall mae'r Llyfrgell wedi ei ysgrifennu ar gyfer y wefan wedi ei drwyddedu dan drwydded CC-0 ac yn rhydd o gyfyngiadau hawlfraint. Buasem yn gwerthfawrogi yn fawr petaech yn rhoi cydnabyddiaeth i’r Llyfrgell fel ffynhonnell y wybodaeth os yw'n bosibl.
Noder os gwelwch yn dda nad yw’r holl fetadata a gwybodaeth destunol arall sydd ar y wefan wedi ei gynhyrchu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac y gall rhywfaint ohono fod wedi ei warchod gan hawliau trydydd parti. Os hoffech chi fwy o eglurder ynghylch pa ddata y gellir ei ddefnyddio dan y drwydded CC-0, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r Ffurflen Ymholiadau Ar-lein.