Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!


Hygyrchedd y Wefan


Rydym wedi ceisio gwneud ein gwefan mor hygyrch â phosib.

 

Rydym wedi cynnwys linc Osgoi'r Arlwy ar ein holl dudalennau.

Mae ein tudalennau wedi eu strwythuro fel bod modd eu defnyddio heb lygoden trwy ddefnyddio 'tab' i fynd o un linc i'r llall ac yna gwasgu 'ENTER'.

Mae nifer o'n catalogau hefyd ar gael arlein. Rydym yn profi hygyrchedd ein gwefan yn rheolaidd yn unol â'r canllawiau W3C, ac mae bob tudalen newydd yn cynnwys hygyrchedd fel mesur perfformiad allweddol.

Mae'r gosodiad hwn yn cyfeirio at holl dudalennau prif gorff gwefan llgc.org.uk. Ni fydd rhai arddangosfeydd, prosiectau a chatalogau a grëwyd cyn 2004 yn hygyrch.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu os yr hoffech fwy o wybodaeth ar sut y gwnaethpwyd y wefan hon yn hygyrch, e-bostiwch webmaster@llgc.org.uk.

 

 

Datganiad hygyrchedd y catalog

 

Gwnaed pob ymgais i sicrhau bod y catalog hwn yn hygyrch i gymaint o bobl â phosib.


Rydym wedi ceisio cwrdd â Chanllawiau W3C ar bob cam o’r datblygiad ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gwerthwyr i sicrhau bod y safle gyfan yn cyrraedd safon WAI AA.

Dyluniwyd y safle yn gyfan gwbl gan ddefnyddio CSS ar gyfer dylunio, a defnyddiwyd maint ffont perthynol. Mae'r defnyddiwr felly'n gallu newid y maint/ffont/lliw o’u ffeil CSS personol ei hunan neu o osodiadau porwr.

Lle mae lliw wedi cael ei ddefnyddio er mwyn cynorthwyo llywio neu ddarllen, gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei dyblygu drwy ddulliau eraill, anweledol neu ddi-liw.

Er ein bod yn gwneud ein gorau i gynnal safon uchel o hygyrchedd ar draws y safle, fe all fod rhai adrannau sydd heb eu datblygu eto, neu sy’n cael eu darparu gan drydydd parti ac nad ydynt yn gallu cael eu cynnal gennym ni. Rydym yn eich sicrhau ein bod yn gweithio gyda phartneriaid a datblygwyr er mwyn gwneud yr adrannau hyn o’r catalog mor hygyrch â’r gweddill.

Os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth lywio trwy’r catalog, yna byddem yn falch iawn o glywed oddi wrthych. Gyda'ch cymorth chi gallwn wella profiad y defnyddiwr ar gyfer pob defnyddiwr.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 26-03-2007