Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwasanaeth cyfeiriol electronig sy’n cael ei ddefnyddio gan nifer o lyfrgelloedd i weinyddu eu gwasanaethau ymholiadau i ddefnyddwyr yw QuestionPoint.
Wrth gyflwyno ymholiad yn electronig, yr unig beth sydd wedi newid yw diflaniad y cyfeiriad ebost ar gyfer y gwasanaeth. Bydd angen cyflwyno pob ymholiad trwy ffurflen ymholiadau ar-lein.
Mae QuestionPoint yn creu cyfrif yn awtomatig wrth i chi gyflwyno ymholiad am y tro cyntaf. Anfonir eich cyfrinair i’r cyfeiriad ebost a nodwyd pan gyflwynwyd eich cwestiwn. Yn eich cyfrif cewch weld eich cwestiynau a’u hatebion.
Nag oes. Anfonir yr ateb i’ch cyfeiriad ebost, ond gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif er mwyn gweld statws eich cwestiwn, neu ail-edrych ar atebion blaenorol.
Dyma rai rhesymau:
Os nad yw’r uchod yn gweithio, cysylltwch â’r Llyfrgell.
Bydd QuestionPoint yn anfon eich cyfrinair i’ch cyfeiriad ebost.
Ar dudalen mewngofnodi’r ymholydd, dewiswch ‘Wedi anghofio’ch cyfrinair – cliciwch yma’
Teipiwch y cyfeiriad ebost nodwyd pan osodwyd eich cwestiwn, a dewis ‘Anfon’
Ewch i’r cyfrif ebost i dderbyn y neges a fydd yn cynnwys eich cyfrinair.
Er mwyn ei newid, ewch i’r linc ‘Cyfrinair’ sydd i’w weld ar unrhyw dudalen o’ch cyfrif
Bydd y gydnabyddiaeth a ddaw wrth gyflwyno’ch cwestiwn yn nodi mai ateb o fewn 10 diwrnod gwaith o’r dyddiad y cyflwynwyd y cwestiwn yw’r nod.
Cliciwch ar unrhyw gwestiwn mewn rhestr cwestiynau i fynd i’r tudalen ‘Fy ymateb’
Rhowch eich neges yn y blwch ar waelod y tudalen ‘Fy ymateb’
Cliciwch y botwm ‘Anfon ymateb’
Bydd yno am 90 diwrnod, cyn bod QuestionPoint yn ei ddileu.
Dylid defnyddio Google Docs, neu raglen debyg os am anfon atodiad o unrhyw fath gyda’ch ymholiad.
Plis nodwch mai eich dewis chi yw defnyddio safleoedd allanol fel Google Docs i anfon gwybodaeth atom, a'ch bod yn cytuno i amodau a thelerau'r safleodd hyn wrth wneud.
Dewis arall yw anfon eich ymholiad drwy ein ffurflen ymholiadau a phostio neu ffacsio’r atodiad atom.
Gweler dudalen Ymholiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru am amlinelliad o’r math o ymholiadau a atebir