Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Casgliad Traethodau Cymru yn cynnwys oddeutu 50,000 o draethodau a thraethodau hir a gyflwynwyd ar gyfer graddau ôl-radd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae’r casgliad yn cynnwys traethodau a thraethodau hir sy’n deillio o bob gradd PhD a Meistr, yn ogystal â thraethodau hir cyrsiau Meistr a addysgwyd sydd â diddordeb Cymreig neu sydd wedi derbyn rhagoriaeth.
Ar bapur y mae’r rhan fwyaf o bell ffordd o’r casgliad cyfredol, ond mae adneuo electronig yn dod yn fwy a mwy cyffredin. Mae amryw o sefydliadau addysg uwch wedi datblygu cadwrfeydd sefydliadol i storio a darparu mynediad ar-lein i’w hallbwn ymchwil, yn cynnwys traethodau a thraethodau hir electronig, a gyfeirir atynt yn gyffredinol fel e-draethodau. Yn 2009 dechreuodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymru weithio ar y ‘gwasanaeth cynaeafu e-draethodau.’ Mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi’r Llyfrgell i gasglu copïau o destun llawn e-draethodau, trwy gynaeafu, a darparu mynediad parhaus iddynt trwy reolaeth gadwraeth. Mae hefyd yn golygu y gellir chwilio ar draws Casgliad Traethodau Cymru i gyd, oherwydd gall defnyddwyr chwilio am gopïau print a chopïau electronig o draethodau ar yr un pryd. Ar ôl cofrestru fel Darllenydd gallwch ofyn am weld copi print o draethawd yn Ystafelloedd Darllen y Llyfrgell neu fel arall, gallwch ofyn am lawrlwytho traethawd neu draethawd hir electronig.
Os ydych yn ddeiliad hawliau ac yn poeni eich bod wedi dod o hyd i ddeunydd ar ein gwefan nad ydych wedi rhoi caniatâd ar ei gyfer, edrychwch ar ein tudalen Hysbysu a Thynnu’r Deunydd i Lawr.
Gwasanaeth EThOS y Llyfrgell Brydeinig fydd yn cywain pob traethawd PhD a gasglwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru o’r sefydliadau sy’n cymryd rhan. Ewch i http://ethos.bl.uk/ i ddysgu mwy am EThOS.
Datblygwyd y gwasanaeth hwn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar y cyd â Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymru a’i ariannu gan JISC. Ymysg y sefydliadau sy’n cymryd rhan mae: