Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gall unrhyw un chwilio’r gronfa ddata heb gofrestru fel darllenydd gyda’r Llyfrgell. Os hoffech wneud cais i weld copi print o draethawd yn y Llyfrgell, bydd angen i chi gofrestru i gael tocyn darllen llawn. Os hoffech lawrlwytho copi o e-draethawd, rhaid i chi gofrestru fel darllenydd llawn neu fel darllenydd ar-lein. Os nad ydych yn dymuno cofrestru gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, efallai y gallwch weld fersiwn testun-llawn cyflawn o’r traethawd drwy’r sefydliad y deilliodd ohono. Gallwch gael mynediad i gadwrfeydd y sefydliadau unigol trwy’r dolenni ar y brif dudalen.
Sut mae chwilio Casgliad Traethodau Cymru?
Mae’r rhyngwyneb chwilio yn seiliedig ar allweddeiriau, ac mae'n cynnig pedwar opsiwn ; Awdur, Teitl, Sefydliad ac Unrhyw le. Mae’r chwiliad ‘Unrhyw le’ yn cynnwys yr holl feysydd sydd yn y chwiliadau eraill, ynghyd â nodiadau ac, ar gyfer yr e-draethodau’n unig, y crynodeb, felly os ydych eisiau chwilio yn ôl pwnc, dyma’r chwiliad i’w ddefnyddio. Dewiswch un math o chwiliad, neu fwy, teipiwch eich termau a chliciwch y botwm ‘Chwilio’.
Er enghraifft: I chwilio am draethodau gan ymgeiswyr gyda’r cyfenw ‘Morgan’ o Brifysgol Bangor, dewsiwch ‘Awdur’ o’r gwymplen gyntaf, a rhowch ‘Morgan’ yn y blwch wrth ei ymyl. Yna dewsiwch ‘Sefydliad’ o’r ail gwymplen, a theipiwch ‘Bangor’. (Nodwch - gan fod sefydliadau’n newid eu henwau dros gyfnod o amser, ceisiwch ddefnyddio enwau generig yn hytrach na phenodol ar gyfer mwyafrif yr amrywiadau.) Cliciwch y botwm ‘Chwilio’ i weld eich canlyniadau. Pe baech eisiau cyfyngu eich chwiliad i draethodau Mphil yn unig gallech deipio’r uchod ynghyd â chwiliad ychwanegol o ‘Unrhyw le’ gyda’r term ‘mphil’.
Beth fydd i’w weld yng nghanlyniadau fy chwiliad?
Bydd canlyniadau eich chwiliad yn cynnwys hyd at 1500 o gofnodion sy’n cyfateb i’ch meini prawf chwilio. Ni fydd y rhain yn ymddangos mewn unrhyw drefn benodol, ond gallwch eu didoli ar sail gwahanol feini prawf gan gynnwys teitl a dyddiad cyhoeddi drwy ddefnyddio’r gwymplen ar frig y sgrin. I weld mwy o wybodaeth am gofnod neilltuol, cliciwch y rhif cofnod cyfatebol ar y chwith. Nodwch fod y botwm ‘Cais’ sy’n ymddangos uwchben rhai cofnodion ar gyfer ceisiadau ar y safle o gopïau argraffedig yn unig.
Gallwch ddewis gwahanol gofnodion o’ch canlyniadau a’u cadw yn ‘Fy Rhestr’. O’r fan honno gellir eu cadw ar ffeil, eu hargraffu neu eu he-bostio er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol. I fireinio eich meini prawf chwilio neu wneud chwiliad newydd, cliciwch ar y cyswllt ar frig y dudalen canlyniadau.
Mae'n bosibl y bydd rhai canlyniadau gwallus o fewn y set e.e. cofnodion ar gyfer archifau ac anghysondebau o ran didoli data. Gwaetha’r modd, mae’r rhain yn digwydd oherwydd problemau o fewn y data, a grëwyd yn ôl safonau gwahanol dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, ac o’r herwydd nid ydynt bob amser yn gyson.
Sut mae’n bosibl cael mynediad i draethodau copi caled yn unig?
Os ydych eisiau gwneud cais i weld traethawd copi caled yn y Llyfrgell, bydd angen i chi gofrestru i gael tocyn darllen llawn. Trwy glicio’r botwm ‘Cais’ uwchben y cofnod ar gyfer y traethawd yr ydych eisiau ei weld, bydd y system yn gofyn i chi fewngofnodi trwy ddefnyddio manylion eich tocyn darllen llawn os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Gallwch wneud cais am ddeunydd hyd at saith diwrnod cyn yr ydych yn bwriadu mynd i’r Llyfrgell. Unwaith y bydd y broses o wneud cais wedi ei chwblhau, bydd yr eitem yn cael ei chludo i’r Ystafell Ddarllen yn barod i’w defnyddio. Nodwch nad oes modd mynd â’r deunyddiau o’r llyfrgell.
Sut mae’n bosibl edrych ar e-draethawd?
Os ydych chi eisiau lawrlwytho copi o e-draethawd, i ddechrau mae’n rhaid i chi gofrestru fel darllenydd llawn neu fel darllenydd ar-lein. Ar ôl i chi fewngofnodi eich manylion, dewiswch y cofnod ar gyfer y traethawd yr ydych eisiau ei weld. Bydd cysylltau â’r gwahanol ddogfennau sy’n gysylltiedig â’r traethawd yn ymddangos o dan brif fanylion y cofnod, a thrwy glicio ar gyswllt bydd y ddogfen a ddewisoch yn cael ei lawrlwytho.
Os nad ydych yn dymuno cofrestru gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gallwch gael mynediad i’r fersiwn testun llawn o’r traethawd drwy’r Brifysgol wreiddiol. Mae cyswllt i’r e-draethodau o gadwrfa’r sefydliad gwreiddiol ar gael o gofnod yr eitem.
Oes unrhyw ffordd arall o gael mynediad i draethawd?
Bydd pob traethawd PhD a gasglwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan sefydliadau sy’n rhan o’r cynllun hefyd yn cael eu cywain gan wasanaeth EThOS y Llyfrgell Brydeinig. Mae EThOS yn awyddus i ddarparu mynediad i’r holl draethodau a baratoir ym maes addysg uwch y DU. Mae'n bosibl chwilio EthOS i gael hyd i draethodau PhD a gallwch naill ai lawrlwytho copi testun llawn o e-draethawd, os oes un ar gael, neu wneud cais am gopi caed o draethawd i’w ddigideiddio. Am fwy o wybodaeth am EThOS ewch i http://ethos.bl.uk/