Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Telerau ac Amodau Defnydd


Datganiad Hawlfraint

 

Diogelir pob deunydd a ddarperir gan Wasanaeth Casgliad Traethodau Cymru gan hawlfraint a Hawliau Eiddo Deallusol perthnasol eraill.  Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn rydych yn cydnabod bod yr holl Hawliau Eiddo Deallusol sy’n gysylltiedig ag unrhyw Waith a ddarperir yn eiddo llwyr ac unigol i ddeiliad yr hawlfraint a/neu Hawliau Eiddo Deallusol eraill.  Nodir deiliaid hawlfraint penodol ar y tudalennau ac yn yr adrannau priodol.  Ni ddylid dehongli dolenni i ddeunyddiau ar weinyddion eraill fel hawl drostynt.

 

Caniateir drwy hyn drwydded anghyfyngol, na ellir ei throsglwyddo i’r rheiny sy’n defnyddio neu’n atgynhyrchu’r deunydd i ddibenion dilys, yn llwyr neu’n rhannol, ar yr amod y cydnabyddir deiliaid yr hawlfraint gan ddilyn y confensiynau arferol.  Os oes angen caniatâd penodol i ddefnyddio deunydd, nodir hyn a rhaid ceisio caniatâd o’r fath gan ddeiliad yr hawlfraint neu’r asiantaeth a enwir.

 

Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno defnyddio’r catalog i unrhyw ddiben arall gysylltu â Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ofyn am ganiatâd.

 

Datganiad Atebolrwydd

 

Trwy ddefnyddio gwasanaeth Casgliad Traethodau Cymru, rwy’n derbyn nad yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n darparu’r gwasanaeth, yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am gywirdeb a chyfreithlondeb deunyddiau a gynhwysir yn y gronfa ddata, ac nad yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel darparwr y gwasanaeth hwn, yn derbyn unrhyw atebolrwydd am wall neu anwaith, neu am golled neu niwed sy’n deillio o ddefnyddio’r gronfa ddata neu o’r ffaith nad yw’r gwasanaeth ar gael neu fod bwlch mewn mynediad iddo, am ba reswm bynnag. Efallai y bydd gwybodaeth a geir drwy ddefnyddio’r gronfa ddata yn destun cyfyngiadau penodol, a bydd y gwasanaeth yn darparu manylion am y rhain i ddarpar ddefnyddwyr. Trwy wneud defnydd o ddeunydd a gedwir ar y system hon, yn cynnwys yr hyn sydd yn y gronfa ddata, mae defnyddwyr yn derbyn y darpariaethau hawlfraint ac ymwadiad hyn.  Os ydych yn ddeiliad hawliau ac yn poeni eich bod wedi dod o hyd i ddeunydd yn ein catalog nad ydych wedi rhoi caniatâd ar ei gyfer yna edrychwch ar ein Polisi Hysbysu a Thynnu’r Deunydd i Lawr.

 

Cytundeb Mynediad

 

Trwy ddefnyddio gwasanaeth Casgliad Traethodau Cymru rydych yn rhwym i’r Telerau ac Amodau canlynol.  Darllenwch hwy’n ofalus os gwelwch yn dda.

 

Rwyf wedi darllen ac rwy’n deall y datganiad canlynol: Diogelir pob eitem a ddarperir trwy’r gwasanaeth hwn gan hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill, a chedwir pob hawl gan y sawl/rhai a’i creodd neu’r sefydliad y deilliodd ohono. Gall unrhyw un weld yr wybodaeth ddisgrifiadol a ffeil gysylltiedig/ffeiliau cysylltiedig unrhyw eitem yn ddi-dâl.  Gellir ailddefnyddio’r wybodaeth ddisgrifiadol am unrhyw eitem mewn unrhyw gyfrwng heb ganiatâd ymlaen llaw i ddibenion nid-er-elw ar yr amod y rhoddir cydnabyddiaeth briodol i’r ffynhonnell.  Gellir atgynhyrchu copïau unigol o ffeil(iau) testun-llawn/ data-llawn cysylltiedig ag eitem, eu harddangos neu eu perfformio mewn unrhyw ffurf neu gyfrwng ar gyfer ymchwil neu astudiaeth bersonol ac i ddibenion addysgol neu nid-er-elw heb ganiatâd ymlaen llaw ar yr amod y rhoddir cydnabyddiaeth briodol i’r ffynhonnell.  Ni ddylid ailddefnyddio na gwerthu gwybodaeth ddisgrifiadol na ffeil gysylltiedig/ ffeiliau cysylltiedig unrhyw eitem at ddibenion masnachol mewn unrhyw gyfrwng na ffurf heb ganiatâd ffurfiol deiliaid yr hawlfraint.  Mae rhai eitemau wedi’u tagio’n unigol gyda hawliau, caniatâd ac amodau gwahanol. 

 

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 19-01-2011