Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Polisi Hysbysu a Thynnu’r Deunydd i Lawr


Os hysbysir gweinyddwyr Gwasanaeth Casgliad Traethodau Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru o’r posibilrwydd o dor-hawlfraint neu dorri unrhyw hawliau eiddo deallusol eraill, neu os derbyniant gŵyn yn awgrymu bod rheolau’r cyhoeddwyr wedi’u torri neu’n mynegi pryder perthnasol arall, caiff yr eitem dan sylw ei thynnu o’r gadwrfa cyn gynted â phosibl tra cynhelir ymchwiliad pellach.


Os bernir bod sail i’r gŵyn, caiff y deunydd ei dynnu o’r gadwrfa yn barhaol.  (D.S. Efallai y bydd hyn yn cymryd peth amser os bydd angen i Wasanaeth Casgliad Traethodau Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru geisio cyngor cyfreithiol er mwyn datrys y gŵyn.)

 

Os ydych yn berchen hawliau ac yn poeni eich bod wedi dod o hyd i ddeunydd yr ydych chi’n berchen ar yr hawliau iddo ar ein gwefan, nad ydych wedi rhoi caniatâd iddo fod yno, cysylltwch â ni trwy'r ffurflen electroneg gan nodi’r canlynol:

  1. Eich manylion cyswllt.
  2. Manylion llyfryddiaethol llawn y deunydd.
  3. Cyfeiriad y wefan lle daethoch o hyd i’r deunydd.
  4. Natur y gŵyn.
  5. Datganiad mai chi, dan gosb anudoniaeth, yw perchennog yr hawliau neu eich bod wedi’ch awdurdodi i weithredu dros berchennog yr hawliau.

 

Yna gweithredir y weithdrefn ‘Hysbysu a Thynnu’r Deunydd i Lawr’ fel a ganlyn:

  • Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn anfon e-bost neu lythyr i gydnabod derbyn eich cwyn ac yn cynnal asesiad cychwynnol o ddilysrwydd a hygrededd y gŵyn.
  • Caiff mynediad i'r deunydd ei dynnu oddi ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru hyd nes y cytunir ar ddull o ddatrys y sefyllfa.
  • Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cysylltu â’r cyfrannwr a adneuodd y deunydd.  O fewn gweithdrefn Hysbysu a Thynnu'r Deunydd i Lawr Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae'r sefydliad yn cael ei adnabod fel cyfrannwr.  Hysbysir y cyfrannwr fod y deunydd yn destun cwyn, ynghyd â’r honiadau, ac fe’i hanogir i ymateb i’r cwynion dan sylw.
  • Anogir yr achwynwr a’r cyfrannwr i ddatrys y mater yn gyflym ac yn gyfeillgar er boddhad i pob ochr, gyda’r canlyniadau posibl a ganlyn:

1.  Gosodir y deunydd yn ôl ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru heb ei newid.

2.  Gosodir y deunydd yn ôl ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda newidiadau.

3.  Tynnir y deunydd oddi ar y wefan yn barhaol.

  • Os na all y cyfrannwr a’r achwynwr gytuno ar ddull o ddatrys y sefyllfa, ni fydd modd cael gafael ar y deunydd trwy Lyfrgell Genedlaethol Cymru hyd nes y byddant wedi cytuno ar ffordd o ddatrys y sefyllfa.

 

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 19-01-2011