Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Am awgrymiadau pellach ynglŷn â ffynonellau a all fod o werth i'r hanesydd teulu, gweler y rhestr ddarllen.
Os methwch chi ddod o hyd i un o'r llyfrau a nodir ar y rhestrau hyn, yna gallwch chwilio amdanynt pan ddowch chi i'r Llyfrgell. Mae’r mwyafrif helaeth wedi eu nodi ar y catalog arlein: os na, gallwch chwilio catalogau microffis yn y Llyfrgell. Bydd nifer o'r gweithiau i'w cael ar silffoedd agored Ystafelloedd Darllen y Llyfrgell. Dylid cofio bod angen tocyn darllen dilys cyn gellir archebu neu ddefnyddio unrhyw ddeunydd sydd yn perthyn i gasgliadau'r Llyfrgell.