Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Roedd Amy Roberta (‘Berta’) Ruck (1878-1978) yn nofelydd rhamantaidd poblogaidd a thoreithiog. Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau, storïau byrion, a straeon cyfres, yn ogystal â nifer o weithiau hunangofiannol. Cafodd hefyd yrfa gynharach fel arlunydd a darlunydd.
Roedd gan Berta Ruck gysylltiadau teuluol cryf gyda Sir Feirionnydd a thrigai yn Aberdyfi o 1939 hyd ei marwolaeth, yn gan-mlwydd oed, ym 1978. Roedd yn briod â’r nofelydd Oliver Onions (1873-1961).
Ceir y grŵp mwyaf o lawysgrifau a phapurau Berta Ruck yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Maent wedi eu catalogio ar ein catalog arlein (cliciwch ar 'coeden archifol' er mwyn gweld yr archif gyfan).
Mae'r archif yn cynnwys:
Mae'r llawysgrifau llenyddol yn yr archif yn cynnwys yn bennaf ddraftiau o'i gweithiau hunangofiannol, gan gynnwys:
Yn aml, ceir drafftiau a nodiadau ar gyfer ei nofelau yn y llyfrau nodiadau. Fodd bynnag, mae'r rhain yn bennaf yn cynnwys dyddiaduron sydd yn disgrifio:
Ceir hefyd nodiadau, er enghraifft ar:
Mae’r ohebiaeth (y mwyafrif wedi ei phastio y tu mewn i’r llyfrau nodiadau) yn cynnwys llythyrau oddi wrth ffrindiau a chydnabod megis:
Mae ei gyrfa fel darlunydd yn cael ei gynrychioli gan frasluniau a darluniau, 1900-1920. Gwelir hefyd amryw frasluniau ymysg ei llythyrau a dyddlyfrau.
Mae yn y Llyfrgell Genedlaethol hefyd:
Ceir eraill o lyfrau nodiadau Berta Ruck, 1928-1937, yn Llyfrgell Prifysgol Delaware
Ceir gwybodaeth fywgraffyddol ychwanegol yn yr Oxford Dictionary of National Biography