Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Papurau Newydd Cymru Arlein


Mae Papurau Newydd Cymru Arlein Beta yn adnodd ar-lein di-dâl gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle gallwch ddarganfod miliynau o erthyglau o bapurau newydd hanesyddol o gasgliad cyfoethog y Llyfrgell.

 

Ar hyn o bryd  mae Papurau Newydd Cymru Arlein Beta yn caniatáu i chi chwilio a chael mynediad i dros 420,000 tudalen o 40 cyhoeddiad papur newydd yn gyffredinol i fyny at 1910, ac yn mynd i dyfu i dros 1 miliwn o dudalennau wrth i fwy o gyhoeddiadau gael eu hychwanegu yn ystod 2013. Bydd yr adnodd hefyd yn cynnwys rhai papurau newydd sy'n cael ei digido fel rhan o brosiect Y Rhyfel Byd Cyntaf a'r profiad Cymreig, a bydd rhai cyhoeddiadau'n tyfu i gynnwys argraffiadau a gyhoeddwyd i fyny at 1919.

 

Ariennir Papurau Newydd Cymru Arlein Beta yn rhannol gan Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.

Ewrop & Chymru: Buddsoddi yn eich dyfodol

Mynegwch eich barn


Mae Papurau Newydd Cymru Beta yn dal i ddatblygu a byddwn yn trwsio'r bygiau canlynol ac  yn ychwanegu'r nodweddion canlynol dros y misoedd nesaf:

  • y gallu i lawrlwytho ac e-bostio dyfyniadau erthygl
  • y gallu i lawrlwytho ffeiliau PDF
  • chwilio manwl
  • arddangos datganiadau rhifyn papurau newydd
  • cymorth ar gyfer dyfeisiau sgrîn-gyffwrdd
  • cywirdeb y dewisydd amrediad dyddiadau ar y dudalen blaen
  • chwilio cymeriadau nad ydynt yn yr wyddor

 

 

Yn y cyfamser, rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y safle gan ddefnyddio 'Cysylltwch â ni' a leolir ar waelod pob tudalen.

Hanes cyhoeddi papurau newydd yng Nghymru


Datblygodd cyhoeddi papurau newydd yn araf iawn yng Nghymru o’i gymharu â gweddill Prydain, a sefydlwyd y wasg argraffu cyntaf ym 1718.  Profodd Cymru newidiadau cymdeithasol radical yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd cyhoeddi papurau newydd yn ymateb i ymwybyddiaeth wleidyddol gynyddol y genedl, y cynnydd yn y boblogaeth a’r economi diwydiannol cyfoethog.

 

Y papur newydd cyntaf i’w gyhoeddi yng Nghymru oedd ‘The Cambrian’ yn Abertawe ym 1804. Ar  y pryd roedd Abertawe yn dechrau datblygu’n dref fasnachol a diwydiannol, gyda’r rhwydweithiau cyfathrebu a oedd ei angen ar gyfer dosbarthu’r papur i’r siaradwyr a darllenwyr Saesneg a oedd yn y lleiafrif ym mhrif drefi De Cymru. Dilynodd Gogledd Cymru yn fuan wedi hynny gyda’i wythnosolyn cyntaf, The North Wales Gazette, a gychwynnwyd ym Mangor gan deulu Broster o Gaer ym 1808. Dwy flynedd yn ddiweddarach ymddangosodd y Carmarthen Journal, ar gyfer darllenwyr yng Ngorllewin Cymru.

 

Seren Gomer oedd y papur wythnosol cyntaf Cymraeg ei iaith, a gychwynnwyd gan Joseph Harris ym 1814. Yn wahanol i’r papurau y cyfeiriwyd atynt uchod, anelai Seren Gomer at fod yn bapur cenedlaethol a geisiai gynrychioli Cymru gyfan, gan atgyfnerthu’r iaith Gymraeg.

 

Y papur dyddiol cyntaf a gyhoeddwyd yng Nghymru oedd ‘The Cambrian Daily Leader’ (1861), ond y Western Mail (1869) a ddatblygodd i fod yn brif bapur newydd dyddiol Cymru, ac mae’n parhau'r un fath hyd heddiw.

Sut y digidwyd y papurau newydd gwreiddiol?


Sganiwyd y casgliad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dilyn buddsoddiad mewn stiwdio ddigido newydd, unedau sganio arbenigol a dulliau rheoli llif gwaith er mwyn darparu’r capasiti ar gyfer tîm o staff ymroddedig i baratoi a sganio pob tudalen.

 

Bu'r tîm paratoi yn cofnodi rhifau'r rhifynnau a'r tudalennau (metadata) cyn eu trosglwyddo i'r tîm digido ar gyfer sganio. Mae cyflwr ac ansawdd y cyfrolau'n amrywio'n fawr ac mewn rhai achosion roedd angen gwneud gwaith cadwraeth cyn sganio’r tudalennau bregus.

 

Wedi hyn, proseswyd y sganiau digidol, sydd yn y bôn yn ‘ffotograffau digidol’ o’r tudalennau, gyda meddalwedd Adnabod Nodau’n Optegol er mwyn gwneud y testun yn chwiliadwy, a defnyddiwyd proses lled-awtomatig i adnabod y gwahanol erthyglau ar y dudalen.

 

Diogelir pob ffeil ddigidol am byth yn system rheoli asedau digidol cadarn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd wedi ei ehangu'n sylweddol i sicrhau bod cymaint â phosibl o le storio ar gyfer y project yma.

Cyhoeddiadau Papur Newydd


Bydd Papurau Newydd Cymru Arlein Beta yn parhau i dyfu drwy gydol 2013 i gynnwys y cyhoeddiadau canlynol. Sylwer bod y casgliad digidol yn adlewyrchu daliadau ffisegol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac na fydd holl rifynnau’r papur newydd ar gyfer y dyddiadau a nodwyd ar gael.

Papur Newydd Blynyddoedd Argaeledd
Aberdare Leader 1902-1910; 1913-1919 Newydd
Aberdare Times 1861-1902 Ar gael
Abergavenny Chronicle 1909-1910 2013-2014
Aberystwyth Observer 1858-1861; 1864-1900; 1902-1910 Ar gael
Aberystwyth Times 1868-1870 2013-2014
Aberystwyth Visitor's List and Guide 1887 2013-2014
Adsain 1906 2013-2014
Amserau 1846-59 2013-2014
Baner ac Amserau Cymru 1857-1910 2013-2014
Barry Dock News 1889-1910 2013-2014
Barry Herald 1896-1910 2013-2014
Brecon County Times 1866-1869; 1900; 1905-1910 2013-2014
Brecon Reporter 1865-1867 2013-2014
Brython Cymreig 1892-1901; 1906-1910 Ar gael
Caernarvon and Denbigh Herald 1836-1910 2013-2014
Cambrian 1804-1846; 1870-1884; 1886-1910 Ar gael
Cambrian News 1860-1919 Ar gael
Cardiff and Merthyr Guardian 1845-1874 Ar gael
Cardiff Times 1858-1910 Ar gael
Cardigan Bay Visitor 1887-1903 2013-2014
Cardigan Observer 1878-1897 2013-2014
Carmarthen Journal 1810-1812; 1828-1831; 1889-1893; 1901-1910 2013-2014
Carmarthen Weekly Reporter 1860-1910 2013-2014
Celt 1878-1879; 1881-1906 Ar gael
Cheshire Observer 1901-1908 2013-2014
Chester Courant 1897-1908 2013-2014
Clorianydd 1897-1907; 1909-1910 2013-2014
Colwyn Bay & North Wales Weekly News 1892; 1894-1907 Ar gael
County Echo [Pembrokeshire] 1901-1910 2013-2014
County Observer and Monmouthshire Central Advertiser 1867-1878; 1881-1884; 1899-1908 Ar gael
Cymro a'r Celt Llundain 1907-1910 Ar gael
Cymro [Lerpwl a'r Wyddgrug] 1890-1907 Ar gael
Demetian Mirror 1840 2013-2014
Denbighshire Free Press 1882-1910 2013-2014
Drych 1875-1878; 1881-1900 2013-2014
Dydd 1868-1870; 1872-1890; 1892-1910 Ar gael
Evening Express 1891-1910 Ar gael
Flintshire Observer 1864-1900; 1907-1910 2013-2014
Genedl Gymreig 1877-1900 2013-2014
Glamorgan Free Press 1897-1899 2013-2014
Glamorgan Gazette 1894-1895; 1906-1910 2013-2014
Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette 1832-1843 2013-2014
Goleuad 1869-1910 1869-1900 2013-2014; 1901-1910 Ar gael
Gwalia 1883; 1897-1910 2013-2014
Gwladgarwr 1858-1882 Ar gael
Gwyliedydd 1877-1908 Ar gael
Gwyliedydd Newydd 1910 2013-2014
Haverfordwest and Milford Haven Telegraph 1857-1910 2013-2014
Herald Cymraeg 1901-1910 2013-2014
Herald of Wales and Monmouthshire Recorder 1897 2013-2014
Illustrated Usk Observer 1855-1866 Ar gael
Llais y Wlad 1874-1884 Ar gael
Llais Llafur 1914-1919 Newydd
Llan 1881-1910 2013-2014
Llandudno Advertiser and List of Visitors 1896-1910 2013-2014
Llanelly Mercury 1897; 1909-1910 2013-2014
Llanelly Star 1910 2013-2014
Llangollen Advertiser 1868-1873; 1875-1903; 1905-1908 Ar gael
London Kelt - Celt Llundain 1895-1904 Ar gael
London Welshman - Cymro Llundain 1904-1906 Ar gael
Merthyr Express 1864-1869; 1909-1910 2013-2014
Merthyr Pioneer 1914-1919 Newydd
Merthyr Telegraph 1855-1881 2013-2014
Merthyr Times 1895-1897 Ar gael
Monmouthshire Merlin 1829-1884 Ar gael
Montgomery County Times 1893-1900 Newydd
Montgomeryshire Express and Radnor Times 1892-1908 Newydd
Negesydd 1895-1909 2013-2014
North Wales Chronicle 1827-1900 2013-2014
North Wales Express 1878-1910 Ar gael
North Wales Gazette 1808-1816; 1823-1825 2013-2014
North Wales Times 1897-1900 2013-2014
North Wales Weekly News 1909-1910 Ar gael
Papur Pawb 1893-1904; 1909-1910 Ar gael
Pembroke County Guardian 1901-1910 2013-2014
Pembrokeshire Herald 1844-1891; 1901-1910 Ar gael
Penarth Chronicle 1895 2013-2014
Pontypool Free Press 1859-1869; 1872-1893 2013-2014
Pontypridd Chronicle 1881-1883; 1886-1905 2013-2014
Potter's Electric News 1859-1868 Ar gael
Prestatyn Weekly 1905-1910 Ar gael
Principality 1848-1850 2013-2014
Rhedegydd 1878-1879; 1893-1910 2013-2014
Rhondda Leader 1899-1910 2013-2014
Rhos Herald 1909-1910 2013-2014
Rhyl Advertiser 1878-1887 2013-2014
Rhyl Journal 1889-1910 Ar gael
Rhyl Record and Advertiser 1888-1910 Ar gael
Seren Cymru 1851-1852; 1856-1857; 1860-1910 Ar gael
Seren Gomer 1814-1815 2013-2014
South Wales Daily News 1872-1900 2013-2014
South Wales Daily Post 1893-1900; 1910 Ar gael
South Wales Echo 1880-1882; 1885-1900 2013-2014
South Wales Star 1891-1894 Ar gael
Swansea Gazette and Daily Shipping Register 1909-1910 Ar gael
Tarian y Gweithiwr 1875-1910 Ar gael
Tenby Observer 1854-1860; 1867-1889; 1909-1910 2013-2014
Towyn on Sea and Merioneth County Times 1897-1905 2013-2014
Tyst a'r Dydd 1871-1891 2013-2014
Tyst Cymreig 1867-1870 2013-2014
Tyst 1892-1910 2013-2014
Weekly Mail 1879-1910 Ar gael
Welsh Coast Pioneer 1900-1910 2013-2014
Welsh Gazette 1899-1910 2013-2014
Welshman 1835-1910 2013-2014
Werin 1885-1900 2013-2014
Western Mail 1869-1900 2013-2014
Wrexham Guardian 1875-1879 2013-2014
Wrexham Weekly Advertiser 1854-1900 2013-2014
Wythnos a'r Eryr 1899-1903; 1909-1910 2013-2014

Data Agored


Mae'r Llyfrgell wedi ymrwymo i rannu'r data y tu ôl i wefan Papurau newydd arlein. Bydd mynediad i'r APIs sy'n sylfaen i'r wefan hon ar gael yn fuan.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 02-10-2013