Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ar y 1af o Orffennaf 2010 ymwelodd David Loyn, yr awdur a'r gohebydd tramor gyda'r BBC, â'r Llyfrgell i draddodi darlith arbennig fel rhan o raglen weithgareddau Penodau, cynllun noddwyr y Llyfrgell Genedlaethol. Gyda'r Drwm dan ei sang, testun ei sgwrs ddiddorol ac amserol oedd 'Why don't politicians learn the lessons of history?'
Mae David wedi darlledu rhyfeloedd o bedwar ban byd ac wedi cael mynediad digyffelyb i'r rhyfel yn Afghanistan. Tros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain o weithio ym maes newyddiaduraeth enillodd nifer o wobrau am ei waith gohebu ar y teledu a'r radio. Mae'n un o griw dethol o newyddiadurwyr sydd wedi llwyddo i ennill y prif wobrau Prydeinig yn y maes, fel Gohebydd Radio'r Flwyddyn Sony ac fel Newyddiadurwr y Flwyddyn gyda'r Gymdeithas Deledu Frenhinol.
