Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Family History

Hanes Teulu

Paratoi At Eich Ymweliad


Ymweld â’r Llyfrgell
Ymweld â’r Llyfrgell

Er mwyn gwneud y defnydd gorau o'ch amser yn y Llyfrgell, dylech geisio casglu cymaint o wybodaeth â phosibl cyn eich ymweliad.

 

  • Nodwch ddyddiadau digwyddiadau o fewn eich teulu, gan ddechrau gyda chi eich hun ac yna brodyr a chwiorydd, gan weithio yn ôl drwy eich rhieni, mor bell ag y gellir
  • Gofynnwch i berthnasau mewn oed am eu hatgofion gan wneud nodiadau neu recordiad
  • Chwiliwch am unrhyw gofnodion teuluol gan ofyn i berthnasau a chwilio mewn llofftydd

 

Os ydych chi'n ddechreuwr, byddai'n ddefnyddiol ichi ddarllen un o'r nifer o lyfrau ar y farchnad sy'n ymwneud â hel achau yn gyffredinol, gweler Darllen Pellach.

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 26-02-2007