Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dylai'r chwilio ddechrau gyda ffynonellau teuluol a lleol. Dylid talu sylw'n arbennig i ffynonellau mewn perygl, gan gynnwys gwybodaeth lafar, papurau sydd ym meddiant unigolion, a cherrig beddau.
Gallwch fynd ymlaen wedyn i chwilio cofrestrau sifil genedigaethau, priodasau a marwolaethau a chofnodion y cyfrifiad.
Gallwch chwilio mynegeion y genedigaethau, priodasau a marwolaethau a chopïau cofnodion y cyfrifiad pan ddowch chi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru: maent ar ffilm, ffis neu ar y we drwy chwilio Ancestry Library. Maent hefyd ar gael yn y Ganolfan Cofnodion Teuluol, 1 Myddelton Street, Islington, Llundain, EC1.