Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cynhaliwyd cyfrifiad bob 10 mlynedd ers 1801 (ar wahân i 1941), ond ni chofnodwyd enwau na manylion personol yng nghyfrifiadau 1801-1831. Mae cofnodion cyfrifiad Cymru a Lloegr am y cyfnod 1841-1901 i'w gweld yn yr Archifdy Cenedlaethol, Kew ac mae gan nifer o archifdai a llyfrgelloedd lleol gopïau microffurf ar gyfer eu hardaloedd eu hunain.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gopi microffurf o bob cyfrifiad ar gyfer Cymru gyfan a rhai ardaloedd ar y gororau, 1841-1901.
Gellir archwilio’r cyfrifiad 1841-1901 yn rhad ac am ddim o fewn y Llyfrgell drwy Ancestry Library. Hefyd, mae mynediad am ddim i gyfrifiad 1911 ar gael o derfynnell penodol yn Ystafell Ddarllen y De yn unig.
Yn ogystal, mae rhai o'r cofnodion wedi eu hadysgrifio a'u mynegeio gan unigolion a chymdeithasau brwdfrydig a thrwy eu caredigrwydd hwy mae’r adysgrifau a’r mynegeion yn awr ar gael i ddefnyddwyr y Llyfrgell.