Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Un gwahaniaeth sylfaenol rhwng Cymru a Lloegr yw'r dull tadenwol o enwi a arferid yng Nghymru yn hytrach na'r cyfenwau sefydlog a geir yn Lloegr. Enghreifftiau o hyn yw Griffith Lewis, mab Lewis John William, a Harry David, mab David John Rees, ill dau yn dystion i weithred trosglwyddo tir ym mhlwyf Llandeilo Fawr, sir Gaerfyrddin, yn 1683. Yn yr un modd, cofnodir priodasau Thomas Morris ac Elizabeth Morris, merch ddi-briod, mab a merch Morris Thomas, ffermwr, yng nghofrestr plwyf Llansilin, sir Ddinbych, ganrif union yn ddiweddarach. Yn ei ffurf gynharach, roedd y dull hwn fel rheol yn cynnwys ab neu ap (sef mab) neu ferch (sillafwyd verch yn aml) e.e. bedydd Elin verch William ap Llywelyn yn Llandegfan, sir Fôn, yn 1599.
Ers yr 16eg ganrif, mabwysiadwyd y drefn Seisnig yn raddol gan y Cymry, gyda'r newid yn digwydd yn gynt yn haenau uchaf cymdeithas ac yn agos at ffin Lloegr nag ymysg gwerin bobl yr ardaloedd gorllewinol lle roedd yr hen ddull heb ddiflannu'n llwyr hyd yn oed yn gynnar yn y 19eg ganrif.
Un canlyniad amlwg i'r datblygiad graddol hwn yw'r diffyg amrywiaeth cyfenwau mewn llawer rhan o Gymru, tra bo hen enwau Cymraeg parchus fel Llywarch wedi goroesi hyd heddiw fel cyfenwau yn siroedd y gororau. Canlyniad arall yw bod nifer o gyfenwau Cymreig yn dechrau â P neu B: Bowen (o 'ab Owen'); Beynon (o 'ab Eynon'); Powell (o 'ap Howell'); a Prytherch a Protheroe (o 'ap Rhydderch'). Cyfeiriwyd yn aml hefyd at wragedd priod wrth eu henwau morwynol, e.e. Jennett Bennett, gwraig David Thomas Rees Prees yn y weithred trosglwyddo tir yn 1683 a grybwyllwyd uchod, a Margaret Roberts, gwraig Evan John, yng nghofrestr Llangybi, sir Gaernarfon, yn 1749.
Ceir ymdriniaeth helaethach â'r dull tadenwol a chyfenwau yn T J Morgan a Prys Morgan, Welsh Surnames (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1985), a John a Sheila Rowlands, The Surnames of Wales (Federation of Family History Societies Ltd, 1996).