Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Fe allech chi elwa o ymuno â chymdeithas hanes teulu’r ardal y mae gennych ddiddordeb ynddi. Gellir cael manylion am y cymdeithasau gan Ffederasiwn y Cymdeithasau Hanes Teulu (The Federation of Family History Societies), sydd hefyd â chyfres o lyfrynnau defnyddiol ar bob math o bynciau achyddol.
Mae Cymdeithasau Hanes Teuluoedd Undebol Cymru yn gorff cydgysylltiol er hyrwyddo a meithrin ymchwil hanes teulu yng Nghymru.
Corff arall sydd yn cyhoeddi pamffledi a llyfrau o ddiddordeb i achyddwyr yw Cymdeithas yr Achyddwyr (The Society of Genealogists), 14 Charterhouse Buildings, Llundain EC1M 7BA, ac mae ganddi lyfrgell werthfawr iawn o ddeunydd achyddol.
Ceir cylchgronau y cymdeithasau Cymreig ar y silffoedd agored yn Ystafell Ddarllen y De.