Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dechreuwyd cadw cofrestri sifil o enedigaethau, priodasau, a marwolaethau yng Nghymru a Lloegr ar 1 Gorffennaf 1837. Cedwir y cofnodion ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd yn ganolog gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Mae 'r cofrestryddion lleol yn cadw copi o gofnodion eu hardaloedd eu hunain.
Mae copi microffis o fynegeion genedigaethau, priodasau, a marwolaethau y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol oddi ar 1837 hyd 1998 ar gael i'w chwilio yn rhad ac am ddim yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â mynegai cyfrifiadurol rhwng 1984 a 2000.
Gellir chwilio trwy’r mynegeion yn rhad ac am ddim o fewn y Llyfrgell drwy Ancestry Library.
Pan ddowch chi o hyd i gofnod yn y mynegeion, gallwch wneud cais am dystysgrif yn cynnwys y manylion cyfatebol am yr enedigaeth, y briodas neu'r farwolaeth.
Nid yw'r Llyfrgell yn rhoi tystysgrif, ond cynigir gwasanaeth chwilio'r mynegeion os darperir digon o wybodaeth.
Gellir cael tystysgrif, am y tâl priodol, o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (ceisiadau post i'r: General Register Office, PO Box 2, Southport, Merseyside PR8 2JD) neu gan Gofrestrydd Arolygol yr ardal lle y cofnodwyd y digwyddiad.