Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Family History

Hanes Teulu

Mynegai Achyddol Rhyngwladol (IGI)


Ffynhonnell arall o wybodaeth achyddol sydd o bosib ar gael mewn archifdy neu lyfrgell leol yw'r Mynegai Achyddol Rhyngwladol (International Genealogical Index) a gasglwyd gan Adran Achyddol Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf, a adwaenir yn gyffredin fel y Mormoniaid. Er bod y mynegai ymhell o fod yn gyflawn, ac er, efallai, nad yw'n cynnwys yr enw a geisir, fe all awgrymu meysydd posibl ar gyfer ymchwil bellach, yn enwedig os yw'r cyfenw yn un anghyffredin.

Mae argraffiad 1988 yr IGI am Gymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, ac Ynysoedd y Sianel ar gael ar ficroffis yn y Llyfrgell ond gellir archwilio fersiwn cyfredol arlein drwy wefan Familysearch.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 13-02-2007