Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Family History

Hanes Teulu

Cofnodion yr Eglwys yng Nghymru


Llyfr festri Llanbedr Pont Steffan
Llyfr festri Llanbedr Pont Steffan

Er bod Cymru'n cael ei hystyried yn wlad Anghydffurfiol yn bennaf, lleiafrif o'r boblogaeth yn unig mewn gwirionedd a oedd yn ffyddlon i unrhyw gorff Anghydffurfiol, ymhell i mewn i'r 19eg ganrif. Petai teulu’n cefnu ar yr Eglwys Anglicanaidd ac yn ymuno â chynulleidfa Anghydffurfiol, nid oedd o reidrwydd yn torri pob cysylltiad ag eglwys y plwyf. Nid oedd pob capel Anghydffurfiol, yn enwedig rhai mewn ardaloedd gwledig, wedi ei drwyddedu ar gyfer priodasau, ac yn aml nid oedd ganddynt fynwentydd.

Mae achyddwyr yn ddyledus felly i'r Eglwys Anglicanaidd am y dosbarthiadau o gofnodion sydd fwyaf gwerthfawr iddynt fel ffynonellau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Disgrifir y dosbarthiadau hynny o gofnodion dan y penawdau canlynol:

 

  • Cofrestri bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau
  •  Adysgrifau'r esgob
  • Ymrwymiadau priodas
  • Cofnodion esgobaethol eraill

 

 

Cofrestri bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau

 

Gwnaethpwyd y gorchymyn i gadw cofrestr am bob bedydd, priodas, a chladdedigaeth ym mhob plwyf ar 5 Medi 1538. Er bod eu dyddiadau cychwyn yn amrywio'n fawr, nid yw'r cofrestri cynharaf sydd wedi goroesi am y rhan fwyaf o blwyfi Cymreig yn dechrau tan ar ôl 1660, ac yn aml ymhell wedi hynny.

Mae bron pob plwyf yng Nghymru wedi rhoi eu cofrestri ar adnau (ar wahân i gyfrolau sy'n cynnwys cofnodion diweddar) un ai yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu yn un o'r archifdai sirol. Ceir manylion am leoliad y cofrestri, a'u dyddiadau, yn C J Williams a J Watts-Williams, Cofrestri Plwyf Cymru/Parish Registers of Wales (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Grŵp Archifyddion Sirol Cymru mewn cydweithrediad â Chymdeithas yr Achyddwyr, ail arg., 2000).

Am hanes y cofrestri plwyf yn gyffredinol a manylion pellach amdanynt, gweler D J Steel, National Index of Parish Registers, I, General Sources of Births, Marriages and Deaths before 1837 (Llundain: Cymdeithas yr Achyddwyr, 1968); ac, am gofrestri plwyf Cymru yn arbennig, erthygl R W McDonald yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, xix, 113-131 (yn Gymraeg) a 399-429 (yn Saesneg).

Mae llawer o waith wedi ei wneud, ac yn cael ei wneud, yn adysgrifio a mynegeio cofrestri plwyf, yn enwedig gan y cymdeithasau hanes teulu, a gellir cael y manylion diweddaraf ganddynt am brosiectau sydd wedi eu cwblhau, rhai sydd ar waith, neu eraill sydd yn cael eu cynllunio.

Tua 500 o blwyfi sydd â'u cofrestri yn y Llyfrgell. Am resymau cadwraethol nid ydynt ar gael i'w darllen ond ar gopi microffilm.

I weld y cofrestri plwyf ewch i Ystafell Ddarllen y De.

 

Adysgrifau'r esgob

 

Adysgrifau'r esgob yw'r cofnodion blynyddol a gyflwynir gan eglwysi Anglicanaidd i'r esgob. Maent yn cynnwys copïau o'r holl gofnodion a ysgrifennwyd yn eu cofrestri plwyf yn ystod y deuddeng mis blaenorol. Er y gorchmynnwyd i'r adysgrifau gael eu danfon yn flynyddol o 1597 ymlaen, nid oes adysgrifau cyn 1661 yng nghofnodion yr Eglwys yng Nghymru sydd ar gadw yn y Llyfrgell.

Hyd yn oed wedi'r dyddiad hwnnw mae nifer o fylchau yn y cofnodion, a dim ond ychydig o adysgrifau cyn 1723 sydd ar gael am blwyfi yn esgobaeth Llandaf, ac ychydig iawn am y 18fed ganrif am y plwyfi yn archddiaconiaethau Aberteifi a Thyddewi. Mae'r adysgrifau yn gorffen ar ddyddiadau sy'n amrywio o blwyf i blwyf yn ystod canol neu ddiwedd y 19eg ganrif, er bod ambell enghraifft o ddechrau'r 20fed ganrif ar gyfer rhai plwyfi.

Mae adysgrifau o gofnodion priodasau fel rheol yn gorffen gyda chyflwyno cofrestrau sifil ym 1837.

Rhestrwyd yr adysgrifau sydd ar gadw yn y Llyfrgell mewn siedylau sydd ar gael yn Ystafell Ddarllen y De, a cheir manylion am adysgrifau'r esgob am yr holl blwyfi yng Nghymru yn Cofrestri Plwyf Cymru/Parish Registers of Wales.

I weld adysgrifau'r esgob ewch i Ystafell Ddarllen y De.
 

 

 

Ymrwymiadau priodas

 

Defnyddid y dogfennau hyn er mwyn codi trwydded i briodi heb alw gostegion yn gyhoeddus mewn eglwys, a ffeiliwyd hwy a'u cadw yn swyddfa'r esgobaeth lle rhoddwyd y drwydded. Yn gyffredinol, maent yn ymestyn dros y cyfnod 1661-1930.

Mae'r wybodaeth yn amrywio gyda'r math o ddogfen. Yr ymrwymiadau priodas (a oedd yn angenrheidiol yn ôl y gyfraith hyd at 1824) yw'r mwyaf defnyddiol i'r hanesydd teulu. Gallant fod o werth arbennig pan fo dyddiad y briodas yn hysbys er mwyn canfod lleoliad y briodas. Mae'r ymrwymiadau ac affidafidion cyn 1837 sydd yn y Llyfrgell wedi eu mynegeio. Mae cofrestrau trwyddedau priodas ar gyfer esgobaeth Tyddewi, yn bennaf am y 19eg ganrif, ar gael hefyd.

Dylid cofio ei bod yn debygol mai llai nag un o bob deg priodas oedd trwy drwydded. Nid oes llawer o'r trwyddedau wedi goroesi ond weithiau gellir eu canfod ymysg cofnodion plwyfol.

 

Mae'r ymrwymiadau priodas cyn 1838 wedi eu mynegeio. Gellir chwilio'r mynegai ymrwymiadau priodas ar y wefan hon neu yn Ystafell Ddarllen y De.

I weld yr ymrwymiadau priodas ewch i Ystafell Ddarllen y De.

 

Cofnodion esgobaethol eraill

 

Gall y cofnodion hyn gynnwys llawer o wybodaeth yn ymwneud â rhannau arbennig o'r gymuned, yn enwedig y glerigaeth. Y ffynonellau mwyaf ffrwythlon yw'r papurau ordeinio a llyfrau gofwy'r glerigaeth. Yn aml cofnodir enwau wardeiniaid yr eglwys hefyd, tra bo manylion diddorol i'w canfod ymysg papurau'r llys consistori ynglŷn â'r bobl a ymddangosodd ger eu bron, yn aml yng nghyswllt profi ewyllysiau.

Mae catalogau'r cofnodion esgobaethol ar gael yn Ystafell Ddarllen y De.

I weld y cofnodion esgobaethol ewch i Ystafell Ddarllen y De.

 

 

Mynediad i’r deunydd

 

Gallwch chwilio am ddeunydd yn ein casgliadau trwy’r catalog arlein. Rhaid cael tocyn darllen dilys i archebu deunydd i’w weld yn ein Hystafelloedd Darllen.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 12-03-2007