Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Er gwaetha'r ffaith eu bod yn llawer llai cynhwysfawr na chofnodion yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, ni ddylid anghofio am y cofnodion Anghydffurfiol.
Rhoddwyd llawer o gofrestri cynulleidfaoedd ymneilltuol yng ngofal y Cofrestrydd Cyffredinol yn Llundain ar ôl Deddf Cofrestru Sifil 1836, ac fe'u cedwir yn awr yn yr Archifdy Gwladol. Am fanylion ynglŷn â'r cofrestri hyn gweler General Register Office List of Non Parochial Registers (List & Index Society, cyf. 42 (1969)).
Ceir copïau microffilm o'r cofrestri Cymreig yn eu plith yn y Llyfrgell.
Ni anfonwyd rhai cofrestri’n yn perthyn i'r cyfnod cyn 1837 at y Cofrestrydd Cyffredinol a chopïwyd eraill cyn eu danfon i Lundain. Mae rhai o'r cofrestri cynnar a'r copïau ar gadw yn awr yn y Llyfrgell yn ogystal â rhai cofrestri diweddarach.
Ceir manylion am leoliad y cofrestri a'u dyddiadau yn Dafydd Ifans, Cofrestri Anghydffurfiol Cymru/Nonconformist Registers of Wales (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Grŵp Archifyddion Sirol Cymru, 1994).
Chwilier hefyd gronfa ddata Capeli - Chapels yn Ystafell Ddarllen y De.
Gall cofnodion Anghydffurfiol eraill, megis rhestrau aelodau a llyfrau cyfraniadau capeli unigol fod o werth achyddol hefyd. Cyhoeddwyd adroddiadau blynyddol, sydd fel rheol yn cynnwys rhestrau aelodau a'u cyfraniadau, gan lawer o gapeli ers tua 1880.
Mae cyfnodolion enwadol yn aml yn cynnwys adran ar gyfer genedigaethau, priodasau, a marwolaethau. Er eu bod o werth, yn bennaf, am y manylion a roddir am aelodau'r enwad dan sylw, gall nodiadau am aelodau enwadau eraill ymddangos yn aml yn y cyhoeddiadau canlynol: ‘Yr Eurgrawn Wesleyaidd’ (1809, Methodistiaid Wesleaidd); ‘Seren Gomer’ (1818, Bedyddwyr); ‘Y Drysorfa’ (1831, Methodistiaid Calfinaidd); ‘Yr Haul’ (1835, Yr Eglwys yng Nghymru); ‘Y Diwygiwr’ (1835, Annibynwyr); ‘Yr Ymofynydd’ (1847, Undodiaid). Am fwy o wybodaeth gweler tudalen cylchgronau’r 19eg ganrif.
I weld y Cofrestri Amhlwyfol ar ficroffilm ewch i Ystafell Ddarllen y De.
I weld archifau'r Anghydffurfwyr ewch i Ystafell Ddarllen y De.
I weld yr adroddiadau blynyddol printiedig a'r cyfnodolion enwadol ewch i Ystafell Ddarllen y Gogledd.