Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Newydd: Delweddau digidol o ewyllysiau
Ceir nawr fynediad am ddim i ddelweddau digidol o ewyllysiau trwy ein mynegai newydd arlein. Ar hyn o bryd nid oes delweddau digidol ar gael ar gyfer Penarlâg nac ar gyfer Aberhonddu a Llanelwy cyn 1660.
Mae'r ewyllysiau a brofwyd yn y llysoedd eglwysig Cymreig cyn cyflwyno Profiant Sifil ar 11 Ionawr 1858, ar gadw yn y Llyfrgell. Mae'r hen fynegeion a luniwyd gan y llysoedd eu hunain wedi eu disodli nawr gan fynegai newydd arlein.
Dyddiadau'r cofnodion profiant a oroesodd yw:
Ar gyfer y cyfnod wedi 1858 ceir copïau cofrestr o ewyllysiau 5 cofrestrfa yn y Llyfrgell, gan gynnwys pob un o siroedd Cymru - ac eithrio sir Drefaldwyn. Yn ogystal mae’r Llyfrgell yn dal casgliad cyflawn o'r mynegai blynyddol o bob ewyllys a gweinyddiad a ganiatawyd yng Nghymru a Lloegr o 1858 hyd at 1972, sef y Calendar of Grants.
Yn ychwanegol at y cofnodion profeb swyddogol, ceir rhai ewyllysiau a rhestrau eiddo ynghyd â phapurau eraill sy’n ymwneud â phrofebion ymysg papurau’r llys consistori a restrir gyda chofnodion esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru. Ceir miloedd o ewyllysiau ymysg casgliadau o bapurau teuluol a phersonol a phapurau stad yn yr Adran; efallai nad yw rhai o’r rhain yn goroesi yn y cofnodion profeb swyddogol, neu na phrofwyd mohonynt hyd yn oed, neu eu bod wedi’u profi y tu allan i Gymru. Gellir chwilio am y rhain drwy'r catalog Archifau a Llawysgrifau arlein.