Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Family History

Hanes Teulu

Mapiau


Mapiau degwm ac atodlenni dosrannu

 

Cynhyrchwyd mapiau degwm yn bennaf yn ystod y cyfnod 1838-1854 yn dilyn Deddf Cymudo'r Degwm 1836. Dangosant y ffermydd a'r anheddau a dalai'r degwm.

Yr atodlenni dosrannu yw'r allwedd i'r mapiau degwm. Maent yn rhoi enw pob tirfeddiannwr a phob deiliad ar y pryd.

Yn ogystal ceir manylion enwau caeau unigol a'r defnydd a wnaed o'r tir mewn rhai mapiau ac atodlenni.

 

Mapiau eraill

 

Mae'r casgliad mapiau yn cynnwys defnyddiau eraill a all fod o gymorth i'r hanesydd teulu:

  • mapiau printiedig a llawysgrif
  • mapiau ffermydd ac ystadau sydd weithiau yn enwi tenantiaid
  • manylion gwerthiannau arwerthwyr

 

I weld y mapiau degwm a'r atodlenni dosrannu a gweddill y Casgliad Mapiau ewch i Ystafell Ddarllen y De.

 

Mynediad i’r deunydd

 

Chwiliwch trwy ein casgliad mapiau ar ein catalog arlein.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 01-03-2011