Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Brut y Brenhinedd

 

(Llsgr. Peniarth 23C)



 

 

Caswallon fab Beli (f. 31)
Caswallon fab Beli (f. 31)

Cyflwyniad


Llawysgrif Peniarth 23 yw un o’r ychydig lawysgrifau canoloesol Cymreig, a’r unig destun naratif Cymraeg o’r cyfnod, i gynnwys darluniau. Yn y gyfrol, ceir un o gynhyrchion pwysicaf y cyfnod canol oesol, wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg.



Cynnwys


Y testun a geir yn y llawysgrif yw campwaith dylanwadol Sieffre o Fynwy, yr Historia Regum Britanniae (‘Hanes Brenhinoedd Prydain’, c. 1135), wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg fel ‘Brut y Brenhinedd’ (ff. 1-106v). Mae’r gwaith Lladin gwreiddiol yn olrhain hanes y Brythoniaid yn ôl i gyfnod Brutus, sefydlydd tybiedig Prydain, a ymsefydlodd yma gyda’i osgordd wedi cwymp Caerdroea. Yn yr Historia y ceir y portread cyflawn cynharaf o’r brenin Arthur, ac roedd yn waith poblogaidd a dylanwadol yng Nghymru’r oesau canol. Ymddangosodd y cyfieithiad Cymraeg yn ystod y 13eg ganrif ac fe’i ceir mewn rhagor na 60 o lawysgrifau. Mae cyswllt rhwng y copi hwn â llsgr. Peniarth 21, sy’n dyddio o ran gyntaf y 14eg ganrif.

 

Delweddau


Nodwedd anarferol yn y llawysgrif naratif hon yw i rywun ychwanegu ati oddeutu 59 o ddelweddau syml. Cynhwysant 57 portread o frenhinoedd, gan gynnwys Aeneas a Brutus o Gaerdoea (ff. 1, 10), Arthur (f. 75v), a Chadwaladr Fendigaid (f. 104v), ynghyd â darluniau o Eni Crist (f. 36v) a’i Groeshoeliad (f. 38). Aeth yr ysgrifydd, neu ddylunydd arall, ati hefyd i addurno rhai llythrennau gyda delweddau o bennau anifeiliaid a dynion.



Y llawysgrif


Ysgrifennwyd y llawysgrif ar femrwn gan un ysgrifydd cyn diwedd y 15fed ganrif, a hynny, yn ôl pob tebyg, yng Ngogledd Cymru. Awgryma presenoldeb y delweddau i’r gyfrol gael ei chreu ar gyfer noddwr lleyg, ond collwyd tystiolaeth werthfawr yr ysgrifydd am amgylchiadau’r ysgrifennu o dan haen drwchus o fustl ar f. 106v. Ychwanegwyd nodiadau ac enwau ar ymylon nifer o’r dail yn ystod y 16eg ganrif, cyn i’r llawysgrif ddod yn rhan o gasgliad Robert Vaughan yn Hengwrt, sir Feirionnydd. Mae’n bosibl mai yn Hengwrt, yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, y cnowyd ymylon allanol uchaf y dail gan lygod. Rhwymwyd y llawysgrif o’r newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Llyfryddiaeth

 

  • Acton Griscom a Robert Ellis Jones (gol.), The Historia Regum Britanniæ of Geoffrey of Monmouth with contributions to the study of its place in early British history (London, 1929).
  • John Jay Parry (gol.), Brut y Brehinedd: Cotton Cleopatra Version (Cambridge, Mass., 1937).
  • Edmund Reiss, ‘The Welsh versions of Geoffrey of Monmouth’s Historia’, Cylchgrawn Hanes Cymru 4 (1968-9), 97-127.
  • Brynley F. Roberts, ‘Astudiaeth destunol o’r tri chyfieithiad Cymraeg cynharaf o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy, ynghyd ag “argraffiad” beirniadol o destun Peniarth 44’ (traethawd PhD anghyhoeddedig Prifysgol Cymru, 1969).
  • Brynley F. Roberts (gol.), Brut y Brenhinedd: Llanstephan MS. 1 Version (Dublin, 1971).
  • Brynley F. Roberts, ‘Geoffrey of Monmouth, Histora Regum Britanniae and Brut y Brenhinedd’, yn Rachel Bromwich, A.O.H. Jarman a Brynley F. Roberts (gol.), The Arthur of the Welsh. The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature (Cardiff, 1991), 97-116.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 08-06-2011