Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r Casgliad Darluniau yn cynnwys darluniau gwreiddiol, printiau topograffig, a phortreadau. Ceir catalogau'r Casgliad Darluniau yn Ystafell Ddarllen y De.
Chwiliwch drwy ein casgliad darluniau ar ein catalog arlein.
Mae'r Casgliad Ffotograffau yn cynnwys nifer o gasgliadau arbennig fel rhai John Thomas a Geoff Charles yn ogystal â chasgliad cyffredinol o ffotograffau. Ceir catalogau'r Casgliad Ffotograffau, sydd yn cynnwys llawer o enwau unigolion, yn Ystafell Ddarllen y De.
Chwiliwch drwy ein casgliad ffotograffau ar ein catalog arlein.
Mae gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru recordiadau sain heb eu cyhoeddi, fel y rhai a gasglwyd gan Glenys James ynglŷn ag ymfudo i Batagonia a Chanada. Ceir hefyd ffilmiau, ac archifau fideo heb eu cyhoeddi sydd yn cynnwys oriau lawer o ddarllediadau gorsaf deledu Sianel Pedwar Cymru (S4C).
I weld y Casgliad Darluniau a'r Casgliad Ffotograffau ewch i Ystafell Ddarllen y De.
I weld y defnyddiau Sain a Delweddau Symudol ewch i Swyddfa Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, llawr gwaelod, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Chwiliwch trwy gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ar ein catalog arlein.