Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn gynwysiedig dan y pennawd hwn ceir toreth o ddeunydd yn ymwneud â gweinyddu ardaloedd yn amrywio o ran eu maint rhwng Cymru gyfan a phlwyf bach gwledig neu faenor ddi-nod.
Maent yn ymwneud yn aml ag achosion cyfreithiol gerbron amryfal lysoedd, ond serch hynny, ceir ynddynt wybodaeth am bobl o gymeriad dilychwin yn ogystal â'r troseddwyr eu hunain.
Trafodid achosion ynglŷn â thir hefyd gerbron rhai o'r llysoedd hyn (Y Sesiwn Fawr a'r Llysoedd Maenorol).
Disgrifir y cofnodion cyfreithiol a gweinyddol yma dan y penawdau canlynol:
Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru oedd y pwysicaf o'r cyrff hyn. Daeth i fod wedi uniad Cymru a Lloegr a bu mewn bodolaeth o 1543 hyd ei ddiddymu yn 1830.
Mae ei gofnodion yn awr yn y Llyfrgell.
Am fanylion pellach gweler Glyn Parry, A Guide to the Records of Great Sessions in Wales (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1995).
Chwiliwch gronfa Trosedd a Chosb
Y nesaf o ran pwysigrwydd yw cofnodion y Sesiwn Chwarter.
Trosglwyddwyd cofnodion swyddogol siroedd Brycheiniog, Trefaldwyn, a Maesyfed, a fu ynghynt ar adnau yn y Llyfrgell, i Archifdy Powys, a'r ychydig iawn o gofnodion sydd wedi goroesi ar gyfer sir Aberteifi, sef llyfrau gorchymyn sy'n dyddio o 1739, i Archifdy Ceredigion.
Yn ogystal, mae rhai defnyddiau yn ymwneud â'r Sesiwn Chwarter ymysg archifau ystadau neu gwmnïau cyfreithwyr: e.e. rholiau a chofnodion treth tir am y cyfnod 1780-1839, ar gyfer sir Aberteifi; rhai cofnodion treth tir ar gyfer siroedd Trefaldwyn a Brycheiniog; llyfrau gorchmynion 1647-75, a rholiau, 1643-99, sir Ddinbych; a chofnodion sir Drefaldwyn.
I weld cofnodion Llysoedd y Sesiwn Chwarter ewch i Ystafell Ddarllen y De.
Ychydig iawn o lywodraeth leol a fodolai rhwng lefelau sir a phlwyf cyn i Undebau Deddf y Tlodion gael eu sefydlu o ganlyniad i Ddeddf Diwygio Deddf y Tlodion 1834 (er i rai plwyfi ffurfio undebau cyn hynny, e.e. y Montgomery and Pool Union).
Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o gofnodion Undebau Deddf y Tlodion ar gadw yn yr archifdai sirol priodol, lle y cedwir hefyd y mwyafrif o'r cofnodion plwyfol sydd o natur sifil yn hytrach nag eglwysig.
Er hynny mae llyfrau festri a chofnodion plwyfol eraill ar gadw yn y Llyfrgell ar gyfer nifer o'r plwyfi a osododd eu cofrestri plwyf ar adnau yma.
I weld cofnodion deddf y tlodion a'r cofnodion plwyfol ewch i Ystafell Ddarllen y De.
Cedwir cofnodion addysg fel rheol yn yr archifdai sirol priodol. Y rhai mwyaf defnyddiol yw cofrestri derbyn a llyfrau cofnodion (ysgolion cynradd yn bennaf).
Mae cofnodion a phapurau amrywiol rhai Ysgolion Cenedlaethol ymysg y cofnodion plwyfol sydd ar adnau yn y Llyfrgell. Cedwir papurau hefyd yn ymwneud ag amryw o academïau a cholegau Anghydffurfiol, yn fwyaf arbennig y rhai sy'n perthyn i enwad y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg.
Nifer fechan o golegau ac ysgolion Cymru sydd wedi cyhoeddi manylion am eu staff a'u myfyrwyr, ond gellir cael manylion am lawer o Gymry yn Alumni cyhoeddedig y prifysgolion hyn ac ysgolion adnabyddus y tu allan i Gymru.
I weld y llyfrau log, y papurau amrywiol, ewch i Ystafell Ddarllen y De.
I weld y manylion a'r alumni cyhoeddedig ewch i Ystafell Ddarllen y Gogledd.
Gyda chofysgrifau ystad yn bennaf y ceir y cofnodion maenorol sydd ar gadw yn y Llyfrgell ac er iddynt gael eu rhestri gyda'r cofysgrifau ystad ceir mynegeion ar wahân iddynt.
Rhai sir Drefaldwyn yw'r mwyaf cynhwysfawr (gyda chofysgrifau ystadau Castell Coch Powis a Wynnstay yn bennaf). Ceir hefyd ddaliadau sylweddol o gofnodion maenorol ar gyfer siroedd Morgannwg a Mynwy (yn bennaf gyda chofysgrifau ystadau Badminton, Bute a Thredegar).
Rhaid cofio na wreiddiodd y gyfundrefn faenorol erioed o ddifri mewn llawer rhan o Gymru.
Ceir mynegai i faenorau Cymru a'u cofnodion arlein trwy gyfrwng gwefan Cofrestr Dogfennau Maenorol. Gellir ei chwilio hefyd ar gyfrifiadur yn Ystafell Ddarllen y De.
Am ragor o fanylion gweler Helen Watt, Welsh Manors and their Records (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2000).
I weld y cofnodion maenorol ewch i Ystafell Ddarllen y De.
Gallwch chwilio am ddeunydd y nein casgliadau trwy’r catalog arlein. Rhaid cael tocyn darllen dilys i archebu deunydd i’w gweld yn ein Hystafelloedd Darllen.