Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Catalogiwyd y rhan fwyaf o gofnodion yr ystadau a'r papurau personol sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn eithaf manwl mewn siedylau teipysgrif.
Fe gynnwys y cofnodion ystad:
Gall rhentalau fod o werth neilltuol trwy ddynodi marwolaeth neu newid cartref pan ddiflanna enw o gyfres o rentalau.
Ceir mynegai cyffredinol ar gardiau i fwyafrif y siedylau teipysgrif o'r casgliadau yn Ystafell Ddarllen y De (gweler y daflen, Mynegeion). I'r hanesydd teulu adrannau mwyaf defnyddiol y mynegai yw'r rhai ar gyfer ewyllysiau, cytundebau priodasol, ymchwiliadau post mortem, ac achau. Nid oes ychwanegiadau wedi eu gwneud i’r mynegai ar gardiau ers 1991 pan gyflwynwyd y catalog arlein ISYS:web.
Mynegai dethol yw'r un ar gyfer enwau personol, ac fel arfer nid yw'n cynnwys cyfeiriadau at bartïon mewn gweithredoedd ac eithrio pan fo nifer sylweddol o weithredoedd ynglŷn ag unigolyn neu deulu arbennig. Cynhwysir cyfeiriadau at bawb sy'n weddol adnabyddus (e.e. y rhai a gofnodir yn The Dictionary of National Biography a'r Bywgraffiadur Cymreig) a mynegëir awduron llythyrau a'u derbynwyr os tybir y gallent fod o ddiddordeb, neu pan fo cynnwys yr ohebiaeth yn ymddangos yn bwysig.
Mae'r mynegai i enwau lleoedd yn gynhwysfawr ac o ganlyniad gall fod o gymorth wrth olrhain cyfeiriadau at bobl os gwyddys ble’r oeddent yn byw. Gall rhai o'r cardiau testunol fod o gymorth hefyd wrth chwilio am gyfeiriadau at bobl arbennig megis gwŷr proffesiynol neu grefftwyr. Gall y mynegai i gasgliad cyffredinol y llawysgrifau (NLW MSS), a gyhoeddwyd yn rhannol yn Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1940-2003), fod o ddefnydd i achyddwyr hefyd.
Erbyn hyn gellir chwilio holl siedylau teipysgrif y Llyfrgell yn y catalog arlein.
I weld cofnodion yr ystadau a'r papurau personol ewch i Ystafell Ddarllen y De.