Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Y cyflwyniad gorau i lawysgrifau achau Cymreig yw'r arolwg cynhwysfawr gan yr Uchgapten Francis Jones sy'n dwyn y teitl 'An Approach to Welsh Genealogy' yn Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1948), 303-466.
Amrywia'r achau mewn llawysgrif sydd yn y Llyfrgell o achresi uchelwyr a luniwyd yn yr Oesoedd Canol ac a gopïwyd dro ar ôl tro gydag ychwanegiadau gan achyddwyr diweddarach, hyd at dablau achau gan amaturiaid o'r cyfnod mwy diweddar a gyflwynodd gopïau o'u gwaith i'r Llyfrgell.
Ychydig o'r llyfrau achau sydd yn cynnwys manylion ar ôl diwedd yr 17eg ganrif, ac mae diffyg cyfenw sefydlog ac absenoldeb enwau lleoedd yn y cofrestri plwyf yn golygu'n aml na all ymchwilwyr heddiw weithio'n ôl gyda sicrwydd yn llawer pellach na chanol y 18fed ganrif.
Oherwydd hyn mae unrhyw ffynonellau sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch y cyfnod o gwmpas 1700 yn aml yn hanfodol bwysig. Disgrifir achau llawysgrif cannoedd o deuluoedd yn Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales. Yn eu plith ceir copïau o weithiau adnabyddus megis llawysgrifau Taicroesion gan John Ellis (g. 1684: e.e. Llsgrau LlGC 1517, 1519), sy'n ymdrin yn bennaf â Gwynedd, a llawysgrifau Alcwyn C Evans (1828-1902: Llsgrau LlGC 12356-7, 12359-61), sy'n ymdrin yn bennaf â de-orllewin Cymru.
Yng Nghasgliad Peniarth, a ddisgrifir yn Report on Manuscripts in the Welsh Language, I, Rhannau 2-3 (Llundain: HMSO, 1899-1905), y ceir y nifer mwyaf o lyfrau achau cynnar. Casgliadau eraill sy'n cynnwys grwpiau pwysig o lyfrau achau yw Wynnstay (Wynnstay Manuscripts and Documents) a Chastell Gorfod (Castell Gorfod Collection).
Cynnwys llyfrau achau Wynnstay, yn bennaf, adysgrifau gan Joseph Morris (m. 1860) o Amwythig, o nifer o lawysgrifau pwysig, yn eu plith adysgrifau (Wynnstay MSS 143-4) o'r achau a luniwyd yn yr 17eg ganrif gan Owen Salusbury o Rug a John Salusbury o Erbistog ac a gollwyd yn y tân yn Wynnstay yn 1858. Mae'r rhain o werth neilltuol ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru. Ymhlith llyfrau achau Castell Gorfod mae copi (MSS 7 (i-xxi) a 12) o Lyfr Achau'r Gelli Aur sydd yn awr ar gadw yn Archifdy sir Gaerfyrddin.
Mae nifer o weithiau printiedig pwysig ar gael ar gyfer ymchwilwyr sydd â diddordeb yn achau teuluoedd bonheddig:
I weld y llyfrau achau ewch i Ystafell Ddarllen y De
I weld y gweithiau printiedig ewch i Ystafell Ddarllen y Gogledd