
Porwch yr e-gylchlythyr
Croeso

Croeso i gylchlythyr Isadran Gwasanaethau i Ddarllenwyr. Cyflwynwn y newyddion diweddaraf i chi, ac fe rown wybod am newidiadau sydd wedi digwydd, ynghyd ag esbonio sut rydym yn ceisio ymateb i sylwadau a dderbyniwn wrthych.
Os ydych am wybodaeth ynglŷn a dod yn 'ddarllenydd' yn y Llyfrgell, ewch i dudalen Darllen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cofnodion Profeb

Yn dilyn sylwadau gan ein defnyddwyr, mae hi nawr yn bosib prynu copïau o gofnodion profeb arlein. Mae’r gwasanaeth newydd hwn nid yn unig yn gadael i chi weld cofnodion profeb o adref am ddim, ond gallwch wedyn brynu copi digidol safon uchel, a ddanfonir yn syth i’ch cyfrifiadur. Mae'r rhain yn cynnwys ewyllysiau a brofwyd yn y llysoedd eglwysig Cymreig cyn cyflwyno Profiant Sifil ar 11 Ionawr 1858.
Am wybodaeth bellach ynglŷn ag ewyllysiau a chofnodion profeb gweler ein tudalen Ewyllysiau a Chfnodion Profeb.
Ystafell Ddarllen y Gogledd

Wedi cyfnod o adnewyddu a datblygu agorwyd Ystafell Ddarllen y Gogledd dros flwyddyn yn ôl bellach. Cymaint yw poblogrwydd y cyfleusterau sydd ar gael yno fel bu’n rhaid agor yr oriel ar y llawr cyntaf i greu lle i’n holl ddarllenwyr.
Mae cyswllt diwifr (wi-fi) ar gael yn yr oriel fel sydd yn yr ystafelloedd darllen a’r prif gyntedd. Serch hynny, nid oes cyswllt trydan i’w gael yno felly dim ond gliniaduron batri gall elwa o’r cyswllt diwifr ar yr oriel gyntaf.
Derbynwyd sylwadau gan ddarllenwyr yn ddiweddar am ddefnydd yr ystafelloedd astudio, felly mae dwy ystafell astudio bellach wedi cael eu neilltuo ar gyfer astudio mewn grŵp. Trwy ddefnyddio'r ystafelloedd yma gallwch rannu eich llyfrau a thrafod y testun heb amharu ar ddefnyddwyr eraill. Cofiwch, nid oes angen i chi archebu'r ystafelloedd astudio.
Aquabrowser

Aquabrowser yw'r dull newydd a hawdd o chwilio'r catalog cyflawn.
Mae modd chwilio daliadau'r Llyfrgell trwy deipio eich ymholiad yn y blwch testun. Yn y blwch canol, cewch ganlyniadau eich chwiliad, wedi eu graddio yn ôl perthnasedd.
Mae'r cwmwl geiriau ar y chwith yn arddangos termau perthnasol, amrywiadau sillafu a chyfieithiadau, gallwch glicio ar eiriau yn y cwmwl geiriau er mwyn archwilio cynnwys y catalog.
Cofiwch adael i ni wybod eich barn os gwelwch yn dda.
Cylchgronau Cymru

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru'r casgliad mwyaf yn y byd o gyfnodolion Cymreig, ac mae Cylchgronau Cymru Arlein yn cynnig mynediad di-dâl i ystod eang ohonynt. Bydd ôl-rifynnau hyd at 50 o deitlau ar gael yma, yn amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd, ac ychwanegir teitlau newydd yn rheolaidd. Mae rhifynnau cyflawn pob teitl wedi’u cynnwys; mae’r rhifyn diweddaraf y gellir ei ddigido yn dibynnu ar y cyhoeddwr, a bydd yn amrywio o deitl i deitl. Nid oes modd dangos rhai tudalennau am resymau hawlfraint felly cuddiwyd eu cynnwys ar y wefan.
Ymgymerwyd â’r gwaith o gyflwyno’r cylchgronau ar y we gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth JISC a Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chydweithrediad cyhoeddwyr ac awduron.
