Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Archifau Llenorion Cymraeg


Darlun o R W Parry gan John Petts
Darlun o R W Parry gan John Petts. © Ystad yr Arlunydd

Mae’r Llyfrgell wedi casglu papurau a llawysgrifau:

 

  • beirdd
  • llenorion
  • dramodwyr
  • archdderwyddon
  • newyddiadurwyr
  • ysgolheigion

 

a ddaeth yn amlwg yn ystod yr 20fed ganrif. 

 

Beth am weld copi drafft o nofel fwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif, Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis, neu ddrafft o Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames, a Chyfres Rwdlan gan Angharad Tomos?

 

Beth am ddarllen llythyrau Saunders Lewis at Kate Roberts, neu lythyrau at Rydwen Williams ac Alwyn D Rees pan oeddynt yn golygu ‘Barn’? Beth am weld dyddiaduron Caradog Prichard neu Euros Bowen?

 

Ceir amrywiaeth eang o farddoniaeth, megis copi llawysgrif o Caniadau Gwili, copïau yn llaw R Williams Parry o Cerddi’r Gaeaf, copi llawysgrif o awdl fuddugol Y Mynach gan Gwenallt, ac awdl Y Mynydd gan T H Parry-Williams.

 

Mwy am lawysgrifau llenorion Cymraeg diweddar

 

 

Ffotograff o David James Jones ‘Gwenallt’
Ffotograff o David James Jones ‘Gwenallt’

Rhestr ddethol A-Z

 

Dyma rai o'r awduron amlycaf yn ein casgliadau, ond nid yw popeth yn y rhestr hon a dylid chwilio’r catalogau am fanylion pellach. Gellir cael mynediad i’r archifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio ar gatalogau arlein y Llyfrgell (archifau a gatalogwyd cyn 1999, archifau a gatalogwyd ar ôl 1999).

 

  • Ambrose Bebb
  • Ben Bowen
  • David Bowen 'Myfyr Hefin'
  • Euros Bowen
  • Aneirin Talfan Davies
  • David Thomas Davies
  • J Glyn Davies
  • W T Pennar Davies
  • Marion Eames
  • Jane Edwards
  • M Edwards
  • W T Edwards ‘Gwilym Deudraeth’
  • Islwyn Ffowc Elis
  • William Evans 'Wil Ifan'
  • Richard Griffith 'Carneddog'
  • W J Gruffydd
  • Beti Hughes
Ffotograff o T E Nicholas (‘Niclas y Glais’)
Ffotograff o T E Nicholas (‘Niclas y Glais’)
  • Mathonwy Hughes
  •  E Morgan Humphreys
  • Norah Isaac
  • David Emrys James 'Dewi Emrys'
  • John Jenkins 'Gwili'       
  • Bobi Jones
  • David James Jones 'Gwenallt'
  • Idwal Jones
  • T Gwynn Jones
  • Alun T Lewis
  • L Haydn Lewis
  • Saunders Lewis
  • T E Nicholas 'Niclas y Glais'
  • W Rhys Nicholas
  • Dyddgu Owen
  • J Dyfnallt Owen
  • Owen Griffith Owen ‘Alafon’
  • Robert Williams Parry
  • Winifred Parry 'Winnie Parry'
  • Eigra Lewis Roberts
Ffotograff o T H ac Amy Parry-Williams gan Geoff Charles
Ffotograff o T H ac Amy Parry-Williams gan Geoff Charles
  • T H Parry-Williams
  • Iorwerth Peate
  • Caradog Prichard
  • Edgar Phillips 'Trefin'
  • James Ednyfed Rhys ‘Ap Nathan’
  • W Leslie Richards
  • Kate Roberts
  • Robert Roberts ‘Silyn’
  • Robert David Rowland ‘Anthropos’
  • Angharad Tomos
  • Harri Webb
  • D J Williams, Abergwaun
  • David John Williams, Llanbedr
  • John Ellis Williams
  • Rhydwen Williams
  • William Williams ‘Crwys’
  • Waldo Williams

 

Archifau Llenyddol Modern


Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 18-06-2009